Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe. (1 Samuel 25:3)
Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau. (2 Samuel 7:2)
A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. (Ioan 1:46)
Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? (Ioan 3:4)
Mae’r cysylltiad rhwng yr adnodau uchod yn amlwg yn y gwaith lliwio isod!