... fel lili’r dyffrynnoedd.
(Caniad Solomon 2:1 BCN)
Ychwanegir ar brydferthwch y ferch trwy ei chymharu â’r lili. Dewisodd Iesu'r lili i ddysgu ei bobl am offered pryderu’n ormodol am bethau … a phaham yr ydych yn gofalu … (Mathew 6:28 WM). Athrawes fuddiol bryd hynny, a hyd heddiw yw’r lili: … ystyriwch y lili’r maes …
Yr hyn sy’n wir brydferthwch y lili yw ei fod yn brydferthwch naturiol - y mae’n syml ac yn gynhenid brydferth. Mae rhywbeth prydferth mewn bod yn naturiol - yn ni’n hunain.
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Nid oes, ni fu erioed, ni ddaw,
o’r dwyrain i’r gorllewin draw,
gyffelyb i’m Hanwylyd pur.
Amen.
(OLlE)