• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

SALM 119 - GRAWYS 2017

March 4, 2017 Owain Evans

Y Salm fawr! Mae’n debyg i’r Prifathro Thomas Rees (1869-1926) ddefnyddio’r Salm hon i’w arbed rhag un o stormydd bywyd. Pan oedd yn was ffarm, arferai’r ffarmwr orchymyn un o’r gweision i ddarllen darn o’r Beibl ar ôl cinio. Daeth tro Thomas Rees, ac ar y diwrnod arbennig hwn ysgubai’r glaw yn ddidostur dros y meysydd. Dewisodd Thomas ddarllen Salm 119!

Cafodd pobl Dduw, o genhedlaeth i genhedlaeth, y profiad fod y Salm hon yn eu harbed yn y storm. Beth yw cyfrinach y Salm? Ym mhob adnod fe geir cyfeiriad at Dduw neu am Dduw!

Salm 119:1-16

Cynorthwya fi, O! Dduw, ynghanol y gwirioneddau cyfnewidiol i adnabod y Gwirionedd digyfnewid. Amen.

← CYTGAN'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021