Yn unol â chyfarwyddyd y Llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg parhawn i hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street. Er mor chwithig yw hyn inni fel cynulleidfa Minny Street, parheir gyda’r trefniadau sydd yn ein galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. Ac i’r rheini sydd â chyfrif trydar, mae yna faeth ysgrythurol ac ysbrydol, ynghyd ag ambell gamp ddeallusol yn cael eu huwchlwytho i @minnystreet.