Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Ddr Geraint Tudur (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Mari Fflur fydd arwain y defosiwn. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Nos Fercher (25/4; 19:00-21:00): Gwasanaeth gyda ffair a noson goffi i ddilyn er budd Cymdeithas y Beibl yn y Tabernacl, Yr Ais; anerchiad gan y Parchedig Denzil John.
Bore Gwener (27/4; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Disappointment (t.148-152).