Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar dan arweiniad Owain (10/6 am 9:30 yn y Festri). ‘Pensiliau’ fydd thema’r Oedfa hon! Dewch â chroeso i gael deall mor bwysig yw’r ‘pensil’ i fywyd, cenhadaeth a gwasanaeth yr eglwys leol. Yn wir, dewch â phensil gyda chi i’r Oedfa arbennig hon! Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd. Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yr Oedfa Foreol (10:30): yn homili’r Gweinidog cawn gyfle i ystyried gyda’n gilydd pwysigrwydd y cychod eraill (Marc 4:36). Bydd Owain yn trafod: 1. Beth oedd y cychod eraill. 2. Pwy oedd yn y cychod eraill, ac yn olaf, Pam oedd angen y cychod eraill hyn. Cynhelir Cwrdd Eglwys wedi’r Oedfa.
Liw nos, am 18:00 bydd Owain yn ei bregeth yn cymharu’r Beibl â llyfrau coginio! Bydd ei bregeth yn tynnu ar Job 38:1-18 ac Ioan 6:41-45. Boed bendith.
Babimini bore Gwener (15/6; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.