Oedfa Foreol am 10:30. Testun sylw’r Ysgol Sul fydd y Briodas yn Nghana (Ioan 2:1-12). Lle fydd Iesu’n cuddio tybed? Yn ei homili bydd ein Gweinidog yn ein hannog i oeri’r meddwl a chaniatáu i’r galon grwydro!
Liw nos (Oedfa Hwyrol, 18:00) dychwelwn i Ynys Enlli, ac i fedd Griffith Pritchard. Cofio ‘Pen Calfaria’ fydd y nod.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Lun (16/10; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ hwn fydd Martin Luther a'r Diwygiad Protestannaidd.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (17/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Elen Elis: ‘Fy ngwaith gyda’r Eisteddfod’.
Babimini bore Gwener (22/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.