Un rhan hen o’r hyn a aeth
Yn aros - dyna hiraeth.
(James Nicholas; 1928-2013)
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llwyr a llawn eu cyfieithu i iaith arall. Yn y Gymraeg mae gennym ‘Hiraeth’. Bydd y gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin â nifer o’r geiriau rheini. Daw’r cyntaf o’r Ffrangeg: Dépaysement. Golyga’n fras dyhead y sawl sydd oddi cartref am gysur ei gynefin cyfarwydd.
Gwyddai Hadad am Dépaysement. Os oes Beibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i 1 Brenhinoedd 11:14-22. ‘Roedd Hadad o linach frenhinol - tywysog Edom. Cyfnod trist yn hanes ei wlad oedd cyfnod ei blentyndod. Gyda chymorth Joab, rhoes Dafydd frenin ei fryd ar ddifa’r Edomiaid yn llwyr, a cheisiodd wneud hynny. Ond ‘roedd un eithriad - y bachgen Hadad. Drwy gymorth gweision ei dad, ffodd i’r Aifft, a chafodd noddfa yno. Cafodd ei dderbyn fel tywysog - tŷ a thir, ymborth a dillad yn ôl ei haeddiant brenhinol.
Llithrodd y blynyddoedd heibio. Tyfodd Hadad yn ddyn. Edmygid ef gan bawb, a pherchid ef yn llys y Pharo. Priododd chwaer Tahpenes y frenhines, a ganwyd iddynt fab, Genubath. ‘Roedd popeth yn berffaith ddedwydd. Ni allai Hadad ddymuno dim byd gwell.
Ond fe ddigwyddodd rhywbeth a newidiodd y cwbl. Bu farw Dafydd, a Joab, yntau hefyd wedi marw. Anesmwythwyd Hadad yn fawr. Meddyliodd am Edom, ac yn sydyn iawn, daeth tynfa Edom yn drech na holl gysuron a goludoedd yr Aifft - yn gymaint felly nes iddo orfod mynd at Pharo i ofyn am ganiatâd dychwelyd i’w wlad ei hun. ‘Roedd Pharo’n methu deall. Gofynnodd Pharo, "Ond beth sy’n brin arnat gyda mi, dy fod am fynd adref?" Meddai Hadad, "Dim, ond gad imi fynd." (1 Brenhinoedd 11:22 BCN).
Dyna’r stori - stori Dépaysement. Ond nid am y Dépaysement hwnnw ‘rwyf am sôn. Mae rhyw Dépaysement arall, a Dépaysement mwy. Dépaysement dwfn ac oesol pobl am Dduw. Ni ellir mo’i ddiffinio - dyma’r anesmwythyd sydd yn ein hysgogi ac yn ein haflonyddu. Dépaysement enaid am Dduw.
Pa beth yn stori Hadad o Edom, a hynny heb roi gormod o raff i’n dychymyg, sy’n cyfateb i’r cyflwr y cawn ein hunain ynddo heddiw? Onid prawf ydyw o’r gred oesol mai i dragwyddoldeb y perthyn hanfod yr hyn ydym? Dengys fod ein bywyd yn llawer fwy na dyrnaid o lwch, ac mai oddi wrth y Duw a’n creodd ni y daeth inni bob gweledigaeth fawr, pob gwirionedd, pob delfryd a phob prydferthwch. Yn syml, syml, fe olyga ein Dépaysement am Dduw, iddo ein creu ni ar gyfer rhywbeth mwy a gwell na’r bywyd sy’n ddarostyngedig i ddeddf pechod a marwolaeth. Bywyd - y bywyd gwir a’r bywyd llawn yw’r bywyd ‘rydym yn crefu amdano: Dépaysement.
Dépaysement, y mae’n reddf ynom, ac ni wna dim llai ein bodloni:
Nid byddaf lonydd nes dy gael:
Chwant f’enaid yw dy fynwes Di.
(Morgan Llwyd; 1619-1659)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.