• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

December 22, 2017 Owain Evans

Dydd Sadwrn (23/12), priodas Geraint a Steph. ... ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. (Tudor Davies; CFf:635).

Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol. Testun ein sylw fydd yr ychydig adnodau cyfarwydd mawreddog hynny ar ddechrau Efengyl Ioan: Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. (Ioan 1:1-14) Awgryma Owain fod deulais mewn cynghanedd yn yr adnodau cyfarwydd hyn. Mae’r llais cyntaf yn canu emyn o fawl mewn llais hyfryd, dwfn a swynol. Mynnu torri ar draws y canu swynol hwn mae’r ail lais. Llais yn deisyf arnom i ganolbwyntio ydyw, a hynny er mwyn gweld yn glir a deall yn iawn pwy yw’r goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch!

Ni fydd Oedfa am 6pm ond dewch i'r Gwasanaeth Noswyl Nadolig yn y Festri am 23:30: ‘OMB!’ fydd thema’r Oedfa arbennig hon. Cawn gyfle i gwrdd â’r ferch ifanc isod.

Oedfa'r Nadolig (25/12; 10:00) yng Nghapel Minny Street dan lywyddiaeth y Gweinidog; cawn gwmni cyfeillion Eglwys y Crwys a phregethir gan y Parchedig Aled Huw Thomas (Gweinidog Eglwys y Crwys).

Taith Gerdded y Nadolig (28/12; 10:30 -13:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.

← CALENDR ADFENT TU CHWITH (21)PWY DDWEDODD? (16) ATEB →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021