Yn ei gywydd Penmon (1906) sonia T. Gwynn Jones (1871-1949) am ei gyfaill ac yntau’n mynd ar daith i Benmon ryw ddydd Sul, a chan mor ddifyr fu’r daith honno nid oedd modd ei anghofio. Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod hwnnw nid oedd ond un peth i’w ddweud amdano: Rhyw Sul uwch na’r Suliau oedd. (Caniadau; Hughes a’i Fab. 1934)
Rhyw Sul uwch na’r Suliau fydd y Sul i’n Gweinidog gan fod ei fab, Connor, unwaith eto’n arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (9:30; yn y Festri). Connor baratôdd y cyfan oll, er mynych ymgais ei dad i ymyrryd â’r paratoadau rheini! Mae Connor wedi dewis y thema ‘Oriawr Cyril’. Pwy yw Cyril? Pa fath oriawr yw oriawr Cyril? Ceir atebion bore Sul yn gynnar!
Wedi’r brecwast bach a’i sgwrs, a chyfle i gyfrannu i Fanc Bwyd Caerdydd, daw 10:30, a’i gyfle newydd i addoli. Testun homili ein Gweinidog fydd hanes Sacheus (Luc 19:1-10). Cedwid Sacheus rhag mynd yn agos at Iesu gan alltudiaeth grefyddol a chymdeithasol, llawn gymaint â chan bwysau’r dorf. Derbyniodd Sacheus Iesu i’w dŷ, a thrwy gyfrwng yr ymweliad hwnnw cynigwyd cyfeiriad newydd, cyweirnod newydd a chyfoeth newydd i fywyd Sacheus. Mae Efengyl Iesu Grist yn datguddio perthynas newydd, yn meithrin ysbryd newydd ac yn amlygu bwriad newydd.
Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan (14:00). Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo ac i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da fydd gweld eto’r eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri. Boed bendith a mwynhad.
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog yn datblygu ar ambell syniad awgrymwyd ganddo wrth ymdrin â Datganiad Savoy 1658 (Nos Sul 1/1). ‘Rhyddid’ yw testun y bregeth (Ioan 8:36). Beth ydyw’r rhyddid y mae Duw yn ei roddi i bobl? Yng ngolau’r Beibl y mae modd sôn am ddau fath ar ryddid, neu’n well efallai, ddwy wedd ar ryddid. Y naill yw rhyddid i ddewis, a’r llall yw’r rhyddid a ddaw trwy ddewis - neu o leiaf trwy ddewis yn iawn. Boed bendith. Bydd ein gweddïau nos Sul yn echelu ar hanes ymweliad y Sêr Ddewiniaid (Mathew 2:1-12).
‘Disglair aur ni allaf roddi
iti heddiw, Faban Duw;
Rhof fy nghalon iti’n offrwm,
erot mwyach byddaf byw.’
Bydd yr Ysgol Sul yn ail-ddechrau dydd Sul nesaf (15/1). Thema’r mis yw ‘Amynedd’.
‘Gall awr o amynedd ennill blwyddyn o heddwch.’ PIMS nos Lun (9/1; 19:00-20:30 yn y Festri): bydd ein pobl ifanc yn dysgu am amynedd neu hirymaros (Galatiaid 5:22). Boed bendith ar y bobl ifanc hyn sydd â chymaint i’w gynnig: doniau, syniadau ffres, ynni a brwdfrydedd. Boed i Dduw fendithio ein llafur gyda’r ifanc. Na fydded inni arbed dim eleni eto yn ein hymgais i greu o Eglwys Minny Street cartref ysbrydol iddynt.
Bethania nos Fawrth (10/1; 19:30-21:00). Dyma’r pumed o’r cyfarfodydd buddiol hyn. Diolch i Alun a Mair am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Apolos.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (11/1): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (nos Iau 12/1; 19:30 yn y Festri). Croesawir Llywydd newydd, y Parchedig Menna Brown. Gweddïwn am wenau Duw ar lywyddiaeth Menna ac ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.