Tymor newydd o wasanaeth, cyfle newydd i wasanaethu. Bu’r trydydd Sul ym Mis Medi, ers sawl blwyddyn bellach yn gyfle i ailgydio yn ein gwaith wedi tawelwch yr Haf. ‘Rydym eisoes mor brysur â chynffon oen! Llonder mawr i ni gyd yw’r cynnwrf a’r brwdfrydedd, y gefnogaeth a’r cadernid sydd yn ein plith. Cyflwynwn ein hunain i Dduw, a boed i’r cyfan a wnawn fod yn unol â’i ewyllys ef. Gyda’n gilydd, o’r ieuangaf i’r hynaf, byddwn fentrus yn y pethau anghyfarwydd, ac yn fedrus yn y pethau cyfarwydd.
Yn sŵn adnodau agoriadol Salm 84, (a chanu pen-blwydd hapus i efeilliaid Aled a Gwion, â hwythau'n dair blwydd oed heddiw), arweiniwyd defosiwn yr ifanc gan un o ffyddloniaid PIMS: Ioan. Wedi iddo ddarllen ychydig o hanes y Creu, fe’n harweiniwyd ganddo mewn gweddi - a chwip o weddi dda ydoedd! Diolch amdani.
Gweddïwn
 chwpan y byd wedi dechrau cymerwn funud i feddwl am y ffoaduriaid!
Tra bydd y ddraig goch yn tanio,
Tra bydd y Georgiaid yn gwibio,
Tra bydd y Kiwis yn dawnsio,
Beth am y ffoaduriaid?!
Tra bydd Gatland yn gweddïo
Tra bydd y Springboks yn sgrymio,
Tra bydd Tonga yn trio taclo,
Beth am y ffoaduriaid?!
Tra bydd Cymru'n cael eu coroni,
Tra bydd y Saeson eto'n siomi,
Tra bydd y Webb Ellis yn cael ei chodi
Beth am y ffoaduriaid?!
A oes yna le i roi llety
Fel stori bell nôl am yr Iesu?!
A allwn ni wir eu helpu?
Beth am y ffoaduriaid?
Lle i deulu'n y 'Principality'!
Lle i wely reit fawr sydd yn Wembley!
Lle yn Twickers i blant a rhieni!
Oes mae digon o le yn y llety!!!
Amen
Wedi derbyn adnodau gan lond sêt fawr o blant, gofynnodd y Gweinidog os oedd y plant yn dda am gofio pethau. Y plant i gyd - bob un - yn dda yn cofio. A oedd y plant yn cofio’r Oedfa Deulu dechrau’r mis tybed? A chyn iddo gael cyfle i barhau, daeth yr ateb yn frwd: ‘Rhif 1!’ Wedi ein hatgoffa mae Un Duw sydd, a hynny oherwydd ei fod yn ‘llond pob lle, presennol ymhob man’ (David Jones, 1805-68; CFf:76) arweiniwyd y plant, a gyda hwy'r gynulleidfa gyfan, i ystyried arwyddocâd yr adnod:...un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb...(Effesiaid 4:5,6a). (Anogwyd y bobl ifanc i chwilio am yr adnod, a Lleucu oedd y cyntaf i’w darganfod.)
Un Arglwydd: Iesu Grist yw hwnnw, ac er bod ffrindiau Iesu Grist yn credu pethau gwahanol iawn am Iesu, mynnai’r Gweinidog nad oedd ots o gwbl am hynny!
Un bedydd...ac er bod ffrindiau Iesu Grist yn bedyddio mewn gwahanol ffyrdd, eto, mynnai’r Gweinidog: Dim ots!
Pam ‘Dim ots!’? Un Duw sydd, a Thad i bawb! Dangoswyd amlinelliad o’r rhif 1, ac yna’r cwestiwn: ‘A’i dyma’r rhif 1?’ Wrth gwrs! ‘Roedd y plant yn gwbl, a llafar cytûn mai dyma’n wir oedd y rhif 1. Yn sydyn dangosodd y Gweinidog gant a mil o wahanol rifau 1! Pob sut a siâp o rif 1; ond meddai, ‘Duw yw’r rhif 1 MAWR. Mae Duw’n ddigon mawr i gynnwys pob syniad sydd gennym ni amdano.’ Fe’n hatgoffwyd fel eglwys, fod Duw yn fwy na phob syniad sydd gennym ni amdano.
Wedi cyd-weddïo Gweddi’r Arglwydd, aeth y plant a’r plantos allan i’r Ysgol Sul. Deisyfwn fendith Duw ar ein gweinidogaeth gyda, ac ymhlith y plant.
Bu’r gweinidog yn cyfeirio’n gyson y mis hwn at emyn David Jones (1805-68; CFf:76), a’r emyn hwnnw oedd testun pregeth yr Oedfa Foreol. Geiriau o ddiwedd Salm 73: Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi (ad.28a.WM) yw sail yr emyn. Cyfansoddwyd y geiriau, mae’n debyg, yn dilyn ei brofiad o golli ei ferch Ann, a hithau’n 13 oed yn Chwefror 1848. (Cydymaith Caneuon Ffydd; Delyth G. Morgans; PLlEC, 2006) Yr oedd saith o benillion yn wreiddiol; ond pump bu gennym o dan sylw. Arweiniwyd ni at neges pob pennill yn ei dro, ac yn sŵn y neges, cydganu’r pennill. Plethwyd geiriau a phrofiad emynwyr eraill i rediad y myfyrdod. Er mor agos yw Duw:
Mae Duw yn llond pob lle,
presennol ym mhob man;
y nesaf yw efe
o bawb at enaid gwan...
Rhaid i ni fodloni nesáu ato. Gyda’r nesâd daw nerth, diddanwch, maddeuant, hedd a bywyd.
...y graig ni syfl ym merw’r lli:
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Er gwaethaf grym y dŵr, a dwndwr y rhaeadrau saif craig cariad Duw. Wrth y graig ddi-syfl hon, angorwn gwch bach ein byw.
Presenoldeb Duw a gawn yn y pennill cyntaf; ei nerth a’i allu a sefydlogrwydd ei gariad yn yr ail. Yn y trydydd pennill gwelwn gyfoeth Duw:
Yr hollgyfoethog Dduw,
ei olud ni leiha,
diwalla bob peth byw
o hyd â’i ‘wyllys da...
Boed i ‘wyllys da Duw ddysgu’n hewyllys da ni.
Ym mhennill pedwar, ‘rydym yng nghanol storm o ofid:
Mewn trallod, at bwy’r af,
a’r ddiwrnod tywyll du?
Mewn dyfnder, beth a wnaf,
a’r tonnau o’m dau du?
O fyd! yn awr, beth elli di?
‘Nesáu at Dduw sy dda i mi.’
Pa beth a wnawn felly? Troi, ac annog troi at Dduw: ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Anwadal hynod yw
gwrthrychau gorau’r byd;
ei gysur o bob rhyw,
siomedig yw i gyd;
rhag twyll ei wên, a swyn ei fri.
‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Nid ‘drwg’ mo gwrthrychau gorau’r byd, ond siomedig bob un. Rhaid cadw agos at y Peth - Duw - rhag cael ein swyno, a’n twyllo gan bethau crefydd a byw.
Ie, ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi’, ac mae’r adnod yn parhau: yn yr Arglwydd Dduw gosodais fy ngobaith...(Salm 73:28). Boed i ni, y tymor newydd hwn, nesáu, a hynny’n gyson at Dduw. Ein gobaith ydyw Ef - gobaith sy’n ein calonogi i ddal ati i ddal ati yn ei waith; hau cariad mewn tir o gerrig, ffrwythloni’r diffeithdir â’n ffydd - argyhoeddi byd a phobl nad yw’r drwg yn drech na’r da. Heb os: ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi.’
Bu disgwyl eiddgar am ein Gŵyl Flynyddol eleni fel pob blwyddyn. Bu llawer o sôn am ein pregethwr gwadd a’i ddull deniadol o bregethu. Ein braint oedd cael cwmni'r Parchedig Dyfrig Lloyd (Eglwys Dewi Sant). Cawsom ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr yn seiliedig ar Hebreaid 13:1-15, gan ganolbwyntio ar adnod 5: Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.’
Mae rhan fwyaf o’r llythyr at yr Hebreaid, meddai Dyfrig, yn ymdrin â materion mawrion y ffydd; cywir gred am natur a pherson Iesu; ystyr a gwerth aberth, natur ffydd, a gwir ddisgyblaeth yr Arglwydd. Dim ond wedi iddo ymdrin â’r pynciau mawrion rhain, y mae’r awdur yn troi at yr ymarferol. Ym mhennod 13, pennod clo'r llythyr, mae’r awdur yn mynd i’r afael ag ymddygiad cywir y Cristion, gan osod gofynion ymarferol yr Efengyl o’n blaen: brawdgarwch, lletygarwch, ffyddlondeb a diariangarwch. Hanfod y Llythyr at yr Hebreaid yw'r argyhoeddiad fod cywirdeb ffydd yn esgor ar gywirdeb byw - tardd pob gwir wasanaeth i Dduw o gywirdeb ein ffydd yn Nuw. Gallwn ymddiried yn hyn o wirionedd; bodloni ar hyn sydd gennym, arfer haelioni a chroeso gan fod Duw yng Nghrist wedi addo: ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim’.
Hyfrydwch oedd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas a’i chyffiniau yn yr oedfa heno; diolch am eu cefnogaeth gyson, a’r cyfle i gydaddoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Yn dilyn yr oedfa, profwyd mwynhad cymdeithas dros baned yn y Festri.
‘Roedd ein casgliad rhydd yn ystod oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi “Apêl Argyfwng Ffoaduriaid” Cymorth Cristnogol.
Gan ddiolch am Sul, cyflwynwn ein hunain i Dduw, y tymor newydd hwn. Gyda’n gilydd, o’r ieuangaf i’r hynaf, byddwn fentrus yn y pethau anghyfarwydd, ac yn fedrus yn y pethau cyfarwydd, er clod i’r Hwn sydd lond pob lle, presennol ym mhob man. Pwyswn ar yr addewid fawr: ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim’.