Crossing the Rubicon...
Er i mi ddarllen a chlywed yr ymadrodd sawl gwaith, nid oedd y syniad lleiaf gennyf beth oedd Rubicon, a beth yn union oedd arwyddocâd y croesi!
Afon yw'r Rubicon. Iŵl Cesar fu'n croesi, yntau a'i filwyr. Wrth groesi'r afon Rubicon, fe groesodd o Gâl i'r Eidal.
Daeth diwedd y Rhyfeloedd Galicanaidd, a gorchmynnodd y Senedd i Iŵl Cesar ddychwelyd i Rufain, heb ei fyddin, heb ei awdurdod. Gwrthododd. I'r gwrthwyneb, yn 49 CC, croesodd y Rubicon, yntau a lleng o filwyr creithiog a blinedig gan frwydro, ond bob un, yn ddiwahân, yn gwbl deyrngar i Cesar. Bellach, wedi croesi'r afon Rubicon, nid gwas y Senedd oedd Iŵl Cesar, ond gelyn; 'roedd gwrthdrawiad â'r Senedd yn anorfod - a thywallt gwaed difrifol yr un modd. Felly y bu, ac Iŵl Cesar a orfu.
Daeth yr ymadrodd Crossing the Rubicon felly i olygu'r un cam hwnnw na ellir byth camu'n ôl rhagddo. Wedi croesi'r Rubicon, nid oes dychwelyd.
Safwn heddiw, ar lan Rubicon o benderfyniad. Mae David Cameron yn ceisio cefnogaeth y Tŷ’r Cyffredin i ehangu’r cyrchoedd awyr yn Irac i Syria, er mwyn ymosod ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Erfyniwn i'n Haelodau Seneddol ddoethineb, fel y penderfynant helaethu, nid crebachu terfynau cyfiawnder a chymod ar y ddaear.
(OLlE)