‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Dros y “cyfnod atal byr” rhaid bydd hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street dros dro.  Parheir gyda’r trefniant i gyd-addoli ar fore Sul drwy gyfrwng taflenni yn amlinellu oedfaon a baratowyd gan ein Gweinidog a bydd modd dilyn arweiniad ein Gweinidog drwy gyfrwng Zoom yn unol â’r wybodaeth a ddosbarthwyd i’r aelodau.