Edrychwn ymlaen at y Sul a’r wythnos nesaf; Sul ac wythnos lawn, ac amrywiol ei fendithion. Cynhelir (9-9:40) Oedfa’r Bore yn Y Babell Lên (Theatr Weston yng Nghanolfan y Mileniwm). Bydd angen bod yn eich sedd erbyn 08:30 a rhaid bod gennych docyn oedfa. Am 10:30, Cymanfa Ganu'r Eisteddfod yn y Pafiliwn (Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm). Bydd angen bod yn eich sedd erbyn 10:00.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Nos Sul am (17:00), Oedfa Hwyrol a Chymundeb yng Nghapel y Crwys (Richmond Road) dan arweiniad y Parchedig Dafydd Andrew Jones (Caerdydd). Boed bendith.
Dymunwn bob llwyddiant i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Bydd nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion yr eglwys hon â rhan yn amrywiol weithgareddau’r Eisteddfod. ‘Rydym yn falch iawn ohonynt, un ac oll, o’r ieuengaf i’r hynaf.