Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad aelodau a chyfeillion sydd yn byw y tu allan y ddinas (Diolch i Marian, Gill a Peter, Janie, John a Peter). Cynhelir Ysgol Sul. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal y Gymdeithas. Diolch i yn cymryd rhan Elfrys, Rhiannon, Delyth, Jestyn, Margaret, Anne, Peter, Eleanor, Zac, Glyn ac Alun. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.
Nos Lun (30/1; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (31/1; 19:30 yn y Festri): ‘Fy hoff lyfr/awdur’ yng nghwmni Bethan a Glyn.
Babimini bore Gwener (3/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Dydd Mercher 1/2 yng nghapel Aberduar, Llanybydder: Encil Bedyddwyr Cymru. Braint ein Gweinidog yw cael arwain yr encil hwn eleni. Y thema fydd: ‘Pantycelyn, Williams, Yr hen Bant, WW Caneuon Ffydd, Y Pêr Ganiedydd’.