Mathew 9:9-13
Neilltuir y dydd heddiw i gofio Mathew. Y farn gyffredin ydyw mai’r un yw Mathew a Lefi, ac mai casglwr trethi ydoedd. Gan mai yng Nghapernaum oedd ei dollfa ac i Iesu dreulio cryn dipyn o amser yn gweinidogaethu yn y dref honno mae’n debygol i Mathew gael sawl cyfle i wrando Iesu cyn penderfynu ei ddilyn fel disgybl.
Ychwanegir iddo baratoi gwledd i Iesu yn ei dŷ, a gwahodd amryw o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid (Mathew 9:10) i fwyta gydag ef. Y pryd hwnnw efallai, cafodd Iesu’r ffugenw: ...cyfaill publicanod a phechaduriaid (Mathew 11:19 WM). Diolch i Dduw nad ffug mo’r ffugenw!
Mae’n amlwg ddigon nad oedd Iesu’n ychwanegi dim at ei barch na’i boblogrwydd wrth alw dyn fel Mathew i gylch y Deuddeg. Dosbarth dirmygus at ei gilydd oedd y publicanod, gwrthodedig, gweision yr Ymerodraeth Rufeinig; quislings eu hoes.
Derbyniodd Iesu ef i’w gwmni a’i gymdeithas nid am yr hyn oedd Mathew, ond oherwydd yr hyn y gallai fod. Felly y gwna Iesu - cyfaill pechaduriaid - o hyd.
Clodforwn dy gariad, O! Dduw, am iti ein derbyn fel ag yr ydym gan ganfod, ac amlygu'r un pryd ein potensial. Gwna ni, bobl gyffredin, yn bobl anghyffredin ein gofal a chroeso yn, a thrwy Iesu ein Harglwydd. Amen
(OLlE)