Wedi meddwi y maent (Actau 2:13). Gwin sylweddol y Pentecost! Moddion i oes a gyffuriwyd yn rhy hir gan plonc hunanfoddhad a chysgadrwydd.
Yn Oedfa Foreol y Sulgwyn (10:30) bydd homili’r Gweinidog yn gwrthgyferbynnu sŵn a bwrlwm cofnod Luc o’r Pentecost (Luc 2:1-13) â chofnod tawel Ioan (20:9-23). Bydd y cyfan yn echelu ar y eiriau Iesu: ... anadlodd arnynt a dweud: "Derbyniwch yr Ysbryd Glân" (Ioan 20:22) a geiriau’r Salmydd (Salm 51:11): Paid â’m bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.
Cynhelir yr Ysgol Sul.
Edifarhewch, a bedyddir pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. (Luc 2:38) Liw nos yn Oedfa Gymundeb y Sulgwyn, bydd Owain Llyr yn ymdrin ag ystyr y tri gair Edifeirwch, Bedydd a Derbyn. Bydd angen, mae’n debyg, pâr o glustiau newydd ar bawb!
Bydd cyfle i gyfrannu tuag at Cymorth Cristnogol yn ystod y dydd a bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
Nos Lun (21/5; 19:00-20:30) - PIMS
Bore Gwener (25/4; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Disappointment (t.148-153).