HULDA (1)
2 Brenhinoedd 22: 11-20
Mae hanes trist y deyrnas ranedig yn agor a chloi gyda geiriau gwragedd a geiriau proffwydi. Yn 1 Brenhinoedd 14, aeth gwraig y Brenin Jeroboam i weld y proffwyd Aheia i holi a fyddai ei mab yn gwella o’i salwch. Ymateb Aheia oedd y byddai Duw yn difa’r bychan, a theulu Jeroboam i gyd, yn llwyr ac yn gyfan o’r tir.
Yn 2 Brenhinoedd 22, cawn sôn am bump o negeswyr personol y Brenin Joseia yn cael eu danfon at y broffwydes Hulda i ddeisyf ewyllys Duw. Wrth atgyweirio’r deml yn Jerwsalem, darganfuwyd sgrôl cyfraith Duw. Wedi i’r Archoffeiriad Hilceia ei darllen, aethpwyd â hi yn syth i’r brenin. Wrth iddo yntau wrando ei ysgrifennydd Saffan yn darllen cynnwys y sgrôl sylweddolodd Joseia mor bell oedd brenhinoedd a phobl Jwda wedi crwydro o wir ewyllys Duw ar eu cyfer - a’u bod yn haeddu pa gosb bynnag oedd ganddo yn stôr iddynt.
HULDA (2)
Joel 2: 12-13
Aeth negeswyr ar unwaith at Hulda’r broffwydes i geisio cyngor. Fel y proffwyd Aheia gynt, nid newyddion da oedd gan Hulda i’r genedl. ‘Roedd Duw yn mynd i gosbi Jerwsalem. Oherwydd ei ffyddlondeb i Dduw byddai Joseia yn cael teyrnasu mewn llwyddiant a heddwch; ar ôl ei farw byddai yna ddifrod a melltith! Ymhen pymtheg mlynedd ar hugain gwireddwyd ei geiriau bob un.
Mae geiriau Hulda yn ddiweddglo addas i saga waedlyd y deyrnas ranedig. Mae Hulda'r broffwydes, er hynny, allan o diwn â’n tuedd i weld a deall gweinidogaeth broffwydol yr Hen Destament fel peth gwrywaidd. ‘Roedd hon yn wraig o awdurdod a dylanwad nodedig. Rhaid ei bod yn adnabyddus ar bob tu yn nheyrnas Jwda. Dyma’r unig esboniad am ymddiriedaeth Brenin yn ei chyngor a’i doethineb.
- Beth sydd wedi dod i’r amlwg wrth ystyried a thrafod hanes a phrofiad rhai o bobl yr Hen Destament?
- Pwy oedd eich hoff gymeriad a pham?