PIMS: buont mor brysur â chynffon oen ers mis Medi, a heno death cyfle I ymlacio. Trefnwyd gan y Gweinidog 'Minny-lympics’. Saith cystadleuaeth; dau dîm … tîm Dyfrig/Owain (1) a thîm Geraint/Lona (2) . 'Roedd rhaid i bob tîm dewis a dethol un neu ddau o’u plith i gystadlu, gan sicrhau fod pawb yn cael eu cynnwys.
'Adnabod y Logo' oedd y gamp gyntaf; 25 logo amrywiol, a thair munud i’w henwi: Heledd ac Osian fu wrthi o dîm 1 yn erbyn Gruff ac Elin. Tîm 1 a orfu.
'Naid o’ch Unfan' nesa'. Elwyn o dîm 1 yn erbyn Shani o dîm 2. Tîm 2 a orfu y tro hwn.
'Bopit'. Wel, am gystadleuaeth! Connor o dîm 2 yn erbyn Ioan o dim 1. Er yn ddychryn o agos… Ioan a thîm 1 daeth i’r brig y tro hwn.
'Pictionary'. Fred yn erbyn Ifan E. Ifan E aeth â hi. Da iawn tîm 1.
'Taflu i’r Twba'. Agos iawn y gystadleuaeth hon, ond Mali ac Owain J o dîm 2 enillodd yn erbyn Amy a Cadi.
'Keepie-uppies'. Ifan a orfu yn erbyn Gruff E o dîm 1.
Felly, ar ôl chwe chystadleuaeth… Tîm 1: Tri phwynt; Tîm 2: Tri phwynt.
Dibynna’r cyfan felly ar y Cwis Beiblaidd. 12 cwestiwn, ambell un yn ddigon lletchwith; a’r canlyniad? Tîm 2 a orfu, a gyda hynny daeth y pitsa a phawb yn tyrru at y bwrdd, ac yn sŵn y cyd-weddïo: O Dad, yn deulu dedwydd, y deuwn a diolch o'r newydd… cafwyd gwledd o fwyd, hwyl a chwerthin. Hyfryd iawn oedd cael croesawu Heledd a Gruff H yn ôl heno, â hwythau adre' yng Nghaerdydd o’r brifysgol.