Daliwch inni'r llwynogod,
y llwynogod bychain,
sy'n difetha'r gwinllannoedd
pan yw'r blodau ar y gwinwydd.
(Caniad Solomon 2:15 BCN)
Mae peryglon hyd yn oed i wir gariad. Pan ddaw cariad bron i'w lawn gyflawniad, mae'r cariadon yn ymwybodol o ryw alluoedd dinistriol a all fygwth eu cariad. Mae'r llwynogod yn fach ond gallant hefyd fynd at wreiddiau'r gwinwydd.
Nid da diystyru pethau bychain. Gall pethau bychain drwg ddylanwadu'u fawr er niwed ar gymdeithas, bro a gwlad; ond gall effeithio'n drwm er lles pa fo'r pethau bychain yn dda! Cofiwn eiriau Iesu am yr hedyn mwstard. Os oes rhybudd rhag pethau bychain, y mae hefyd gysur o gofio grym pethau bychain eraill.
Benthycwn brofiad Ann Griffiths (1776-1805) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Cofia Arglwydd, dy ddyweddi,
llama ati fel yr hydd ...
Mae'r llwynogod ynddi'n rhodio
i ddifetha'r egin grawn.
(OLlE)