Gyda’r hawl i agor addoldai unwaith eto wedi’r Cyfnod Atal, daeth cyfle i ailgydio mewn cyd-addoliad yn y capel. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd yr addoliad yn parhau i fod yn brofiad gwahanol iawn i’r hyn rydym yn gyfarwydd ag ef, a bydd yr angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel. Rhaid bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i gyd-addoli drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog ynghyd â chynnig cyfle i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom. Gwasanaethir bore Sul gan y Parchedig Aled Gwyn.