Noson agoriadol ein Cymdeithas Ddiwylliannol: M. Wynn Thomas yn cyflwyno hanes 'The History of Wales in Twelve Poems'. Cawsom ragwelediad newydd i ddiben a gwerth y trysor hwn o gyfrol; y cyfan wedi'i gyflwyno'n ddifyr a hwyliog. Diolch i bawb.
TAITH GERDDED OWAIN LLŶR #2
Y SUL
PIMS
PIMS 28ain o Fedi
Llun 1 - Cynfas PIMS am weddill y flwyddyn.
Llun 2 - Ein ‘celfyddyd’ cyntaf.
Llun 3 - Neges y noson.
Diolch i bawb!
OEDFAON Y SUL
Boed bendith ar Oedfaon y dydd yfory.
9:30 (YS;Z) - y Parchedig Robin Wyn Samuel.
18:00 - y Parchedig Ddoctor Alun Tudur.
TAITH I’R GOGLEDD #3
Ffarwelio â Phlas Tan y Bwlch ac ymlaen i'r Ysgwrn; mawr ddiolch i Elsa a'r staff i gyd am y fath groeso cynnes. Elim, Llanddeiniol, Aberaeron ac adref. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r holl drefniadau
TAITH I’R GOGLEDD #2
Caernarfon; Portmeirion a ‘Llyfr Coch Caron’.
Mawr ddiolch am groeso a gofal Plas Tan y Bwlch; cyfeillgarwch, cwmnïaeth, hel atgofion a bwrw golwg ymlaen i’r dyfodol fel unigolion ac eglwys.
TAITH I’R GOGLEDD #1
Byd Mary Jones; Tryweryn a Plas Tan y Bwlch.
Mawr ddiolch am gwmnïaeth dda, hwyl a chwerthin a chyfle i bwyllo, ystyried a myfyrio.
