2il SUL yn ADFENT (SUL Y BEIBL): OEDFA FOREOL GYNNAR dan arweiniad ein Gweinidog. Bydd y Casgliad Rhydd yn oedfaon y Sul tuag at waith Cymdeithas y Beibl a bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd. Bydd Stondin Nadolig yn y Festri er budd ein helusen, Maggie’s a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri hefyd rhwng y ddwy Oedfa Foreol.