Back to All Events

TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Cyfle i ymlonyddu ar ddechrau’r dydd yn y Festri

Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10). Gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15) ym mis Tachwedd.Echel ein myfyrdod heddiw, bydd Gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19).

Earlier Event: 6 December
OEDFA HWYROL A CHYMUNDEB - Ein Gweinidog
Later Event: 7 December
CYFARFOD DIACONIAID