Casgliad Rhydd yn oedfaon y Sul tuag at waith y Genhadaeth.
Bydd y Gweinidog gyda’r plant a’r plantos, yn ystyried ychydig eto o arwyddocâd y rhif 3. Am weddill yr Oedfa, emyn mawr J.G.Moelwyn Hughes (1866-1944) fydd testun ein sylw:
Fy Nhad o’r Nef, O! gwrando’n ‘nghri,
Un o’th eiddilaf blant wyf fi:
O! clyw fy llef a thrugarha,
A dod i mi y pethau da.
(CFf.:691)