Back to All Events

TIBERIAS

Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)

Cyfle i ymlonyddu ar ddechrau’r dydd yn y Festri

Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10). Gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15) ym mis Tachwedd. Echel ein myfyrdod ym mis Rhagfyr oedd Gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Mis Ionawr Gweddi Jona (Jona 2); Chwefror: Gweddi Jeremeia (Jeremeia 17:14-18). Mawrth: 1 Brenhinoedd 18:21-40: Proffwydi Baal a Phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo. Testun ein sylw ym mis Ebrill oedd Gweddi Samson a Steffan (Actau 7:54-60; Rhufeiniaid 12:19-21 a Barnwyr 16:28). Heddiw: Gweddi'r Gwas Ffyddlon (Genesis 24:12-27).