BORE COFFI ER BUDD DYDD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD: Bu’n rhaid gohirio’r gwasanaeth yn Eglwys y Crwys pnawn Mawrth 2ail oherwydd y tywydd. Trefnir bore coffi yn festri Eglwys y Crwys lle, yn ogystal â chasgliad er budd Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd bydd bwrdd teisennau hefyd i hybu gwaith yr elusen ledled y byd. Cyflwynir rhan o wasanaeth Dydd Gweddi Byd Eang y Chwiorydd yn ystod y bore.