'CAEL' A 'CADW'

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Mae ynof dueddiad anffodus i fod yn grintachlyd. Yr unig donig effeithiol yw ystyried yr hyn oll dwi’n ei gael! Er nad ydwyf o reidrwydd yn awgrymu eich bod chi hefyd a thueddiad i grintach, hoffwn eich gwahodd i ystyried, am hanner munud: CAEL. Onid bendith enfawr oedd inni gael rhieni gofalus? Yna, mae cael byw ein dyddiau yng nghoflaid teulu a chyfeillion yn fendith ddifesur. Fel aelod mewn eglwys y mae cael cymorth a chefnogaeth fy nghyd-aelodau yn foddion gras. Braint ac anrhydedd yw cael cyd-addoli â’r bobl hyn a gweinidogaethu gyda hwy, o’r ieuengaf i’r hynaf. Da yw cael gwên o groeso wrth gyrraedd bore Sul, ac mae cael high five gan y bychain wrth ddrws y capel yn faeth enaid. Caniatewch fymryn o grintach: gofid, a thipyn o ddirgelwch yw ein methiant fel eglwys i gael ymateb gan ryw rai. Y mae fel pe bawn yn methu cael gafael arnynt o gwbl. Dyma’r adeg y mae cael cydymdeimlad a chydweithrediad yr aelodau dygn dyfal yn fendith eithriadol. Diolch am fendith bob ‘cael’ sydd yn gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan Waldo Williams: Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau ...; Cael un gwraidd dan y canghennau ...; Cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn ...; Cael o’r creu ei hen athrylith ...

Er mor rhagorol hyn oll, y mae 'na ‘gael’ rhagorach eto sef:

Cael Duw'n Dad, a Thad yn noddfa,

noddfa'n graig, a'r graig yn dŵr,

mwy nis gallaf ei ddymuno ...

(Ann Griffiths, 1776-1805)

Cael Ysbryd Crist i adnewyddu ein hegwan ffydd; cael Goleuni Crist i’n harwain allan o niwl anobaith; cael bod hen hen addewidion Efengyl Crist yn parhau i droi’n fendithion newydd a chyson.

Fel eglwys, gweddïwn am gael ein harwain i’r dyfodol ganddo Ef; ein symbylu i’w wasanaethu’n ffyddlonach:

... cael gras i’th garu di tra bwy’,

cael mwy o ras i’th garu.

(Eifion Wyn, 1867-1926)

Am weddill ein ‘Munud i Feddwl’ ystyriwn: CADW. Beth fyddwch chi’n ei gadw ar y silff ben-tân? Mae yno lun neu ddau efallai: anwyliaid, byw a marw. Wrth edrych arnynt yr ydym yn medru eu cadw mewn cof: cadw cysylltiad â’n ceraint.

Ple tybed, y byddwch chi’n cadw eich Beibl a’ch Caneuon Ffydd? Eu cadw wrth law, gobeithio. Llesol yw cadw’r llyfrau hyn yn agos. Ein defnydd o’r llyfrau hyn sydd yn ein cadw mewn cysylltiad â’r Un a ddaeth i geisio ac i gadw'r hyn a gollasid. Wrth gadw’r llyfrau hyn yn agos, byddwn faes o law yn medru cadw geiriau’r Gair a phrofiad yr emynydd yn y cof. Dylid cadw’r Gair yn y galon. Pam? Wrth gadw’r Gair yn y galon deuwn i sylweddoli mai’r Gair sydd ein cadw ni. Diolch am y bobl sydd yn cadw’r Achos. Mynnant ddweud, dwi’n siŵr, nad y nhw sy’n cadw’r Achos, ond yr Achos sy’n eu cadw nhw! Hwyrach mai cwpled mwyaf adnabyddus ‘Pa beth yw dyn?’ yw:

Beth yw gwladgarwch?

Cadw tŷ mewn cwmwl tystion.

Defnyddia Waldo Williams ddwy idiom yn ei ddarlun o ateb. Idiom Gymraeg yw cadw tŷ, ac idiom Feiblaidd yw cwmwl tystion. Trefn gartrefol, gyfrifol gynnes yw cadw tŷ. Mae’r idiom Feiblaidd yn awgrymu presenoldeb eraill o’r gorffennol. Addo glaw gwir angenrheidiol a wnâi cwmwl i awdur y Llythyr at yr Hebreaid: ... gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch ... (12:1 WM). Heb y glaw, nid oes tyfiant:

Tyred â’r cawodydd hyfryd

Sy’n cynyddu’r egin grawn,

Cawod hyfryd yn y bore

Ac un arall y prynhawn.

(William Williams, 1717-91)

Cyfrinach ein hadfywiad yw Cadw tŷ mewn cwmwl tystion.

Er mor wych geiriau'r ddau Williams, rhaid caniatáu'r gair olaf i David Lewis, Llanelli (1844-1917):

Cadw fi rhag troi yn ôl,

cadw fi rhag crwydro’n ffôl,

cadw nhraed rhag llithro byth

cadw f’ysbryd yn ddi-lyth. 

(OLlE)

EMRYS, Y DDRAIG A'R GOEDEN TAMARISG

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Emrys, y ddraig a’r goeden tamarisg? Y ddraig i ddechrau. ‘Does dim tebyg i Ddraig Goch Cymru ymhlith holl faneri gwledydd byd. Dim ond Bhutan sydd â'r un arwyddlun cenedlaethol â ninnau. Serch hynny mae dreigiau Cymru a Bhutan ill dwy yn tarddu o hen deulu enwog a fu gynt yn fyd-eang. Ym Mhabilon, Persia, India, Tsiena, Affrica - yn wir, ym mhob gwareiddiad yn y byd bron - bu’r ddraig yn destun chwedl a chân, parch ac addoliad. Ceir dreigiau o lawer lliw yn yr hen chwedlau hyn, ac yn eu plith ‘roedd y ddraig goch yn amlwg yn gynnar. Cysylltid nerth swyngyfareddol â’r lliw coch am mai lliw gwaed ydoedd. Ystyrid y lliw coch yn gyfrwng bywyd a doethineb, yn arwydd o barch ac urddas.

Tardd y gair Cymraeg draig o’r gair Groeg drakôn, a olyga, ‘yr hwn a wêl ymhell’, neu ‘y cryf ei olwg’. Dwi am ganolbwyntio ar y cyntaf: Draig, drakôn: ‘yr hwn a wêl ymhell’.

Penderfynais yn ddiweddar bod rhaid gwaredu llyfrau. Mae hyn i mi, yn brofiad tebyg i dynnu dannedd! Wrth geisio gwaredu mi ddois ar draws llyfr a dderbyniais gan fy nhad adeg fy ordeinio: Erthyglau Emrys ap Iwan o dan olygyddiaeth D. Myrddin Lloyd. Cystal imi gyfaddef, aeth y llyfr yn ddisylw i raddau helaeth ar y pryd. O’r herwydd, aeth yn gwbl angof, yn hel llwch, yng nghornel tywyllaf y stydi am flynyddoedd. Am ddarganfyddiad gwerthfawr! Wrth fodio drwyddo, darganfod anerchiad gan Emrys ap Iwan ar ‘Gymraeg y Pregethwr’. Anerchiad oedd hwn i fyfyrwyr Coleg y Bala, ac mae’r geiriau nesa’ hyn wedi cydio’n dynn ynof, ac at y rhain dwi’n dod heddiw:

Y gwych yn unig a fydd fyw: am hynny ceisiwch yn hytrach anllygredigaeth na gogoniant ac anrhydedd presennol. Gwnewch eich pregethau’n gyfryw ag y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i’r oesau a ddel, chwi a wnewch eich hunain yn bregethwyr cymhwysach i’ch oes eich hun.

Pan aeth Emrys i’r Bala am yr ail dro, bedair blynedd yn ddiweddarach - i ddarlithio y tro hwn - rhoddodd i’r myfyrwyr yr un wers: Ymbaratowch, meddai wrthynt, yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith.

Onid dyna ein gwaith fel pobl ffydd? Parchu ddoe, gweithio heddiw ... er mwyn yfory. Ymgyfaddasu i’r oesau a ddel, gan ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dod, yn hytrach nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith.

Ar ddiwedd pennod 21 o lyfr Genesis, gwelir adnod syml yn cofnodi hanes Abraham yn plannu coeden: Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw’r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol (Genesis 21:33). Plannodd goeden tamarisg yn Beerseba. ‘Roedd Abraham erbyn hyn, mewn gwth o oedran, ac nid oedd gobaith y câi ef fyth weld y goeden honno wedi tyfu i’w lawn dwf. Ond, fe gâi cenedlaethau ar ei ôl fedi o ffrwyth ei lafur, câi ei ddisgynyddion loches a chysgod dan y goeden hon. Nid darparu ar gyfer ei oes ei hun ‘roedd yr hen ŵr, ond ar gyfer yr oesau a ddel. Fel y ddraig, gwelodd Abraham ym mhell. Dangosodd ysbryd mawrfrydig, a byddai’r goeden tamarisg hon yn gofgolofn i’r ysbryd hwnnw.

Eraill a lafuriasant, a chwithau aethoch i mewn i’w llafur hwynt, meddai Iesu wrth ei ddisgyblion un tro (Ioan 4:38 WM). Mae’r geiriau yn wir am ddisgyblion pob oes. Diolchwn am lafur y bobl gynt; pobl yn gweithio yn eu cyfnod, gan ymgyfaddasu i’r oesau a ddel ac ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth oedd yn dod - sef, ein cenhedlaeth ni. O’r herwydd daeth yr etifeddiaeth yn ddiogel i’n dwylo. Ein huchel fraint, ein haruchel gyfrifoldeb yw ei diogelu heddiw, wrth ymgyfaddasu nawr i’r oesau a ddel, gan ymbaratoi, ar gyfer y genhedlaeth sydd yn dod, yn hytrach nag ar gyfer y genhedlaeth sydd yn myned ymaith. Yn wleidyddol, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, ac yn grefyddol yr ydym yn plannu coeden tamarisg. Mynnwn fanteisio ar bob cyfle i blannu’r goeden, ac fe ofala Duw am roddi’r cynnydd. Dyna ni: Emrys, y ddraig a’r goeden tamarisg.

(OLlE)

SALM

Salm 32

Yr hyn sy’n poeni’r Salmydd yn y salm hon yw ei hunan. Nid o’r tu allan y daw'r ymosodiad, fel yn rhai o’r salmau eraill, ond o’i galon ef ei hun. Er iddo ennill parch ei gyfoedion, y mae’n ymwybodol o’i wendidau. Y mae’r gwrthgyferbyniad rhwng yr hyn ydyw go iawn a’r argraff y mae’n ei roi i eraill yn aflonyddu arno. Caiff ei boeni gan ei feiau cuddiedig. Ni fedrai addef ei bechod: Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau’n cwyno ar hyd y dydd (Salm 32:3 BCN). Ond, bu’n rhaid, a gyda’r cydnabod daeth maddeuant.

Pam yr ydym mor amharod i gydnabod ein gwendidau? Pam na fedrwn ymddiheuro am ein ffolineb? Beth bynnag bo’r rheswm, tra byddom yn ymatal, ni allwn adfer y berthynas rhyngom ni â’r sawl a frifwyd gennym. Y mae pechod sydd hen ei gydnabod yn gwahanu pobl, ond daw cyffes ac ymddiheuriad â’r rhai a wahanwyd yn agosach at ei gilydd nag erioed.

(OLlE)