Beth yw hyn sy’n dod o’r anialwch,
fel colofn o fwg
yn llawn arogl o fyrr a thus,
ac o bowdrau marsiandïwr?
Dyma gerbyd Solomon;
o’i gylch y mae trigain o ddynion cryfion,
y rhai cryfaf yn Israel,
pob un yn cario cleddyf
ac wedi ei hyfforddi i ryfela,
pob un â’i gleddyf ar ei glun,
yn barod ar gyfer dychryn yn y nos.
(Caniad Solomon 3:6-8 BCN)
Dyma ddisgrifiad o ddyfodiad brenin a’i weision i briodas. Caiff y priodfab eto ei gymharu i frenin. Gallasai’r mwg fod yn fwg y ffaglau tanllyd, neu’r arogldarth neu’r llwch a godwyd gan yr orymdaith. Fel y gweddai i frenin a’r amgylchiad, defnyddir y peraroglau cyfoethocaf.
Y mae’r darlun o frenhiniaeth ac o briodas hefyd o ran hynny, yn cyfleu gwirioneddau pwysig am berthynas Duw a’i bobl. Mynegir ei gariad, ac ar yr un pryd dangosir ei hawl a’i awdurdod. Y mae Duw yn caru ei bobl, ond y mae ar yr un pryd yn hawlio eu teyrngarwch.
Benthycwn brofiad Ioan yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Llawenhawn a gorfoleddwn,
a rhown iddo’r gogoniant,
oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,
ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
(Datguddiad 19:7 BCN)
(OLlE)