Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Deulu (10:30). Cyflwynir y Grawys mewn cwdyn! Rhoir prawf llygad i ddraig, ac ystyrir pwysigrwydd ein hymrwymiad i Fasnach Deg. (Pythefnos Masnach Deg: o 27 Chwefror 2017 i 12 Mawrth 2017).
Wedi’r Oedfa gweinir Cawl Gŵyl Dewi er budd ein helusen, Tŷ Hafan.
Dyledus iawn yw achos Iesu Grist i gymwynaswyr adnabyddus ac anadnabyddus. Wrth ddilyn hanes yr eglwys yn Llyfr yr Actau, gwelir rhan mor bwysig a gwerthfawr sydd gan gwmni’r cymwynaswyr. Fe’i ceir ym mhob man, yn Damascus, a Jerwsalem a Jopa. Dyma’r bobl sydd yn gwneud cenhadaeth a gweinidogaeth eraill yn bosibl. Pwy yw'r rhai hyn? Onid y rhai y bu iddynt gyflawni ewyllys Iesu: yn gymaint â’i wneuthur i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Dyna fraint pobl Iesu yw bod yn gymwynaswyr yn ei enw Ef. Gwneud yr hyn a fedrant heb ddisgwyl sylw nac anrhydedd ond y llawenydd o fod yn gydweithwyr Duw. Fel rhan o’r gyfres pregethau ‘Pobl y Testament Newydd’ bydd ein Gweinidog yn sôn, nos Sul (18:00, Cymundeb) am un o’r cymwynaswyr tawel: Tabitha, neu Dorcas. Dynes ddygn, ddyfal: disgybl. (Actau 9:36-42). Echel y myfyrdod wrth y bwrdd Cymundeb fydd yr adnod hon o Lythyr Paul at yr eglwys yn Rhufain: Gwisgwch yr Arglwydd Iesu amdanoch ... (13:14a BCN). Cafodd Iesu, gennym ddillad tros dro, dillad anaddas a dillad annigonol. Cawn ganddo ddillad cariad, gras a thangnefedd, tosturi a thrugaredd. Pan wisger ni â’r rhain, ‘rydym yn hardd gerbron y Tad. Boed bendith ar Sul. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r Pasg ac ymlaen.
Bethania nos Fawrth (7/3; 19:30-21:00). Diolch i Peter a Gill am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Lydia (Actau 16:11-15).
Egwyl Masnach Deg (8/3; 11:00) Rhan o ddathliadau Masnach Deg Caerdydd: dinas Masnach Deg gyntaf y byd 13 mlynedd yn ôl!
Koinônia amser cinio dydd Mercher (8/3; 12:00): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cynhelir cyfres o fyfyrdodau dros gyfnod y Grawys dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Y Parchedig Aled Huw Thomas fydd yn arwain yr ail o’r cyfarfodydd buddiol hyn, yn y Tabernacl (9/3; 19:30). Y thema y tro hwn fydd ‘Derbyn Crist trwy'r Cymun Bendigaid’. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.