Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: i gloi Pythefnos Masnach Deg, Dianne a Marged fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (12/3 am 9:30 yn y Festri).
Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Dros y Sul, bydd ein Gweinidog y parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Testun ein sylw bore Sul (10:30) fydd Erastus (Rhufeiniaid 16:23b). Un o gyfeillion Paul yng Nghorinth oedd Erastus. Yn ddyn pwysig; un â grym a dylanwad ganddo yn y ddinas. Erastus oedd trysorydd y ddinas, neu yn ôl William Morgan, yn oruchwyliwr y ddinas. Mae Erastus yn ein hatgoffa o dri pheth: mae pob gwaith gan Gristion yn ostyngiad gerbron Duw. Crefydd aneffeithiol yw’r grefydd swil; ac yn olaf, mae costau bywyd yn anhraethol bwysicach na chostau byw.
Testun ein sylw liw nos (18:00) fydd Iago Apostol. Y cyntaf o blith y deuddeg disgybl i farw’n ferthyr. Nid heb achos arbennig y dewisodd Herod Agrippa roi taw ar Iago a’i ladd â’r cleddyf. Er na wyddom y manylion y mae’n amlwg nad dyn y gellid ei anwybyddu oedd Iago, ac fe gredodd Herod ei fod yn rhoi ergyd lem i’r Eglwys ifanc wrth ladd Iago.
Pysgotwr oedd Iago wrth ei alwedigaeth, ac ‘roedd ef a’i frawd Ioan ymhlith y pedwar cyntaf a alwyd gan Iesu i fod yn bysgotwyr dynion. Heblaw bod yn aelod o’r Deuddeg dethol, ‘roedd hefyd yn aelod o’r cylch cyfrin hwnnw o dri - Pedr, Ioan ac yntau - a freintiwyd i fod yn llygad dystion o gyfodi merch ddeuddeg oed Jairus o farw’n fyw, ac o fod ar fynydd y Gweddnewidiad, yn ogystal â bod yng ngardd Gethsemane. Mae’n sicr i’r profiadau hynny adael argraff annileadwy ar ei feddwl.
Heriwyd y ddau frawd gan eu Meistr Iesu un tro i yfed o’r cwpan ‘roedd ef yn gorfod yfed ohoni; a rhoddasant ateb cadarnhaol pendant: ‘Gallwn’. Dengys merthyrdod Iago nad ymffrost wag oedd hwnnw.
PIMS nos Lun (13/3): Noson o mini golf, neu yn wir ‘Minny’ golf yn Treetop Adventure Golf, Canolfan Dewi Sant. Y cyfan i ddechrau’n brydlon am 7.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (14/3; 19:30 yn y Festri): ‘Dylanwadau a Choronau’ yng nghwmni John Price, Machynlleth. Llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth.
Babimini bore Gwener (17/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.