Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr.
(Salm 119:105 BCN)
Dyma’r adnod a ddyfynnir amlaf i fynegi ein dyled i’r Beibl. Mae’r Gair yn goleuo holl amrywiol lwybrau ein byw.
Mae’r Gair yn taflu goleuni ar ein harian: ein prynu, gwerthu, cynilo a dyledion. Fe’n rhybuddia rhag troi'r anghenraid i’n byw yn wrthrych addoliad yn ein bywyd.
Mae’r Gair yn taflu ei oleuni ar ein haddoliad: yn ei lewyrch sylweddolwn mai tasg yr eglwys yn lleol (ac felly’n fyd-eang) yw cyflwyno’r datguddiad dwyfol ac nid damcaniaethau dynol. Rhaid wrth Efengyl sy’n ddatguddiad gan gydnabod nad yw datguddiad bob amser yn dderbyniol!
Mae’r Gair yn taflu ei oleuni ar ein hunanoldeb. Yn nhymor y Grawys, buddiol yw oedi ennyd i gofio fod hunanymwadiad yn gyfrwng i ddiogelu gwareiddiad, tra bod hunanoldeb yn gyfrwng i ddifa gwareiddiad.
O! Dad, dyro i ni sylweddoli fod y Gair yn llewyrch ar ein llwybrau oll. Amen.