Wele di yn deg, fy anwylyd,
Wele di yn deg.
(Caniad Solomon 4:1 WM)
Mor brydferth wyf, f’anwylyd,
mor brydferth wyt!
(Caniad Solomon 4:1 BCN)
Un o’r geiriau amlycaf yng Nghaniad Solomon yw teg ac nid yw’n air i’w ddibrisio. Y mae’r hardd a’r teg yn apelio at berson: cyffyrddir â rhannau tyner ei bersonoliaeth, ac yn aml fe’i cynhyrfir yn arhosol trwy’r cain a’r prydferth. Nid rhyfedd felly i’r Beibl afael yn y darlun a sôn am brydferthwch a thegwch Duw.
Dylai addoliad pobl Ddyw adlewyrchu harddwch, gan y gŵyr y gwir addolwr am brydferthwch sancteiddrwydd. Perthyn tegwch a harddwch i’n ffydd, gan fod gwrthrych ein ffydd yn hardd a theg. Mae elfen ddengar yn perthyn i Gristnogaeth. Pan baid â denu, paid â bod yn Gristnogaeth. Boed i Dduw ein cynorthwyo i wneud tegwch Iesu yn degwch ei eglwys.
Benthycwn brofiad Robert Louis Stevenson (1850 -94) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Went to Church today, and was not depressed.
(OLlE)