One thing is absolutely certain and that is the peace process will continue. Why will it continue? It will continue because it has the overwhelming support of the people of this country. (Martin McGuinness)
Making peace, I have found, is much harder than making war (Gerry Adams).
... byddant hwy’n curo’u cleddyfau’n geibiau, a’u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach ... (Micha 4:3).
O! Dduw Dad, clyw a derbyn ein gweddi a’n gweddїau
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr sydd yn gweithio i adfer cymod, sydd yn hyrwyddo cyd-drafod, sydd yn tawelu ofnau ac ymlid cam-ddeall. Yn y cyfryw yr amlygir teyrnasiad Duw. Trwy gyhoeddi maddeuant dilynant ffordd Iesu Grist. Cynorthwya ni, O! Dad, i wrando â meddyliau agored, i ddangos ysbryd maddeugar yn ein hargyhoeddiadau a'n sylwadau, i gerdded llwybr dealltwriaeth.
Ni allwn rannu cur-calon galarwyr anhysbys i ni a gollodd anwyliaid. Eto yn rhwymyn ein dynoliaeth gyffredin, ac yng nghymdeithas Eglwys Iesu Grist, gelwir arnom i ymestyn allan at gymdogion nad ydym yn eu 'nabod, a'u helpu drwy ein gweddïau i gynnal eu beichiau. Dad trugarog, diddana'r trallodus, cynnal hwy yn eu hunigrwydd a'u colledion.
Po fwyaf o allu a feddwn, trymaf oll ein cyfrifoldeb. Caniatâ O! Dad i'r rhai sydd mewn safleoedd o awdurdod ac arweinyddiaeth ddoethineb i geisio lles eu cymdeithas yn ddi-dderbyn-wyneb, tosturi tuag at y rhai sydd fwyaf anghenus, a phwyll i dywys pobl a digwyddiadau ar hyd ffordd tangnefedd.
Ymhyfryda Cristnogion yng ngras Duw, clywant ei air, cyffesant Grist a cheisiant ddysgu sut i'w ddilyn, eto erys Cristnogion yn wahanedig. Rhoddwn ddiolch am ein hundod yng Nghrist ac am bob arwydd o gymdeithas sydd yn croesi ffiniau enwad, traddodiad ac argyhoeddiad, a gweddïwn ar i Gristnogion amlygu dy allu Di i dorri gwahanfuriau i lawr.
Yn dy drugaredd, O! Dduw Dad, clyw a derbyn ein gweddi a’n gweddїau. Amen.