O Dduw, ti ydy fy Nuw i!
Dw i wir yn dy geisio di.
Mae fy enaid yn sychedu amdanat.
Mae fy nghorff yn dyheu amdanat,
fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
(Salm 63:1 beibl.net)
Yma, yn y Gorllewin, ‘rydym yn ymwybodol iawn o’n anghenion emosiynol - yr angen am gariad, hunaniaeth, diogelwch, cysur a chymorth i fyw - ond cawn ein hamddiffyn i raddau helaeth iawn rhag realiti amrwd ein hanghenion mwyaf sylfaenol. Tueddwn i gymryd pryd o fwyd maethlon a gwydriad o ddŵr glân yn gwbl ganiataol. Nid oes y syniad lleiaf gennym o natur yr ymdrech beunyddiol am ddŵr sydd gymaint rhan o brofiad pobl mewn gwledydd sych: taith hir, bwced trwm, dŵr amhur, blas drwg.
‘Roedd profiad awduron y Beibl yn debyg iawn i brofiad miloedd ar filoedd o bobl ledled byd heddiw. Ni wyddai’r Salmydd hwn beth oedd bod mewn sefyllfa i fedru cymryd bwyd a dŵr yn ganiataol! Yng nghanol holl ddigonedd a chyfoeth ein bywyd, mae’r geiriau agoriadol Salm 63 yn ein hatgoffa mai profiad real iawn - i ormod o lawer o bobl - yw byw mewn tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
Yng ngwledydd Prydain yfwn dros 800 miliwn litr o ddŵr potel bob blwyddyn. Gan dderbyn mae pris pob litr ar gyfartaledd yw 50c, gwariwn £400 miliwn y flwyddyn ar rywbeth a ddaw yn rhatach o lawer o’r tap. Mae’r elusen Water Aid yn awgrymu y gellid sicrhau cyflenwad llawn o ddŵr i bentref yn Affrica, er enghraifft, am £10. Gellid sicrhau cyflenwad o ddŵr i 40 miliwn o bobl mewn blwyddyn gyda’r arian 'rydym yn gwario mewn blwyddyn ar ddŵr potel.
Mae 2 biliwn o bobl y byd heb ddŵr glân i’w yfed. Mae dŵr wedi’i lygru yn achosi 80% o afiechydon y byd. Mae 30,000 o bobl yn marw bob dydd oherwydd cyflenwad dŵr annigonol a charthffosiaeth wael. Mae World Water Day yn gyfrwng i’n hatgoffa, eto fyth, bod ein ffyniant ni wedi ei blethu â ffyniant ein brodyr a chwiorydd ledled byd.
(OLlE)