Heno, ein Cymdeithas Ddiwylliannol: noson hwyliog; siaradwr byrlymus, brwdfrydig a diddorol i'w ryfeddu - Carwyn Graves.
Ei destun? 'Cennin a Chig Oen? Golwg newydd ar fwyd Cymru.'
Diolch i Carwyn am ein hatgoffa, ein haddysgu a'n herio.
Your Custom Text Here

Da a buddiol y cyfle i ddod ynghyd am baned a chacen, sgwrs ysgafn a chwmnïaeth dda - bendith o fore. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, yn arbennig felly Rhiannon ac Alun.
Heno Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street: Gwyn Roberts yn cyflwyno 'Ai Trobwynt oedd Tryweryn?': noson ddifyr a heriol eto. Diolch i Gwyn ac i bawb a fu ynglŷn a threfnu a chynnal y cyfarfod.
Dydd Sul, Hydref 30ain
09:30 - Oedfa Aelodau yng ngofal Marged Williams.
Cynhelir Ysgol Sul.
18:00 - Oedfa Hwyrol dan arweiniad y Parchedig Aled Edwards (Z).
Dewch/ymunwch â chroeso.
Heno, dysgu am weinidogion ein gorffennol fel eglwys. Amryw o weinidogaethau; un neges: Cariad yw Duw!
Diolch i bawb a ddaeth ynghyd heno i ‘Minny Street a Diwali’: Goleuadau; Rama, Sita, Jeremeia 4; troi ‘tua chodiad haul’ (Numeri 21:11). Diolch i Horatius Bonar 774/ W Rhys Nicholas 222 a Gwynn ap Gwilym (Ti, Arglwydd y goleuni/sy’n troi y nos yn wawr’) am alw fewn i estyn cymorth.