‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

'LLYNYDDWCH': LLYTHYR PAUL AT Y PHILIPIAID

Philipiaid 3: 1-11 - Y Gwir Gyfiawnder

Llawenydd yw cyweirnod y llythyr hwn. Dyma’r tant a chlywir ym mhob pennod, a bydd Paul yn dychwelyd ato yn 4:4. Mae nifer o ysgolheigion yn argyhoeddedig mae’r adnod hon yw terfyn y llythyr gwreiddiol, gan mai dyna awgrym y gair ‘Bellach’, a bod hynny’n briodol ar ôl cyflwyno Timotheus ac Epaffroditus. Dyna hefyd, sy'n cyfrif efallai, am y newid cywair sydyn a ddaw ar ôl yr adnod hon.

Gwyliwch y cŵn. Defnyddia Paul iaith gref ryfeddol. Edrychwch ar y cŵn, meddai Paul wrth Gristnogion Philipi, cadwch eich llygaid arnynt. Peryglus ydynt. Daw bai'r cŵn i’r amlwg wrth ddarllen ymlaen: maent yn gorfodi’r gyfraith ac enwaediad ar bobl Crist, ac felly difethant y rhyddid sydd yng Nghrist. Fe dry Paul bopeth wyneb i waered. Fe dry enwaediad yn ddienwaediad, a dienwaediad yn enwaediad. Daliai Paul fod enwaediad fel y derbynnid ef gan y Cristnogion Iddewig yn gofyn am gyflawni’r ddeddf yn llawn. (Galatiaid 5:3). Mae Paul fel petai yn siarad trwy Gristnogion Philipi, er mwyn i’r Cristnogion Iddewig yma cael clywed. Siarad fel rabi Iddewig y mae yn hytrach nag apostol yn y fan hon oherwydd yn nhermau’r efengyl, Nid enwaediad syn cyfrif, na diwenwaediad, ond creadigaeth newydd (Galatiaid  6:15). Trwy’r cwbl, prif amcan Paul yw tanlinellu i Gristnogion Philipi a’r Cristnogion Iddewig sydd yn pwyso arnynt, fod enwaediad o ddim budd i’r sawl a gymero Crist yw galon, a bod Crist o ddim budd i’r Cristion a gymero enwaedu arno.

Gyda’r gair ond, mae Paul fel petai yn tawelu ar ddechrau’r seithfed adnod. Cyhoedda’n hy fod pob ennill yn dalp o golled - ‘sbwriel (8) - pan welodd ogoniant Crist. Daw yw hyn a ddigwydd ar ffordd Damascus i feddwl yn syth a naturiol, ond efallai mai cyfeirio mae Paul fan hyn nid at y profiad hwnnw’n uniongyrchol, ond at ei agwedd meddwl oherwydd y profiad hwnnw. Buom yn sôn am Lawenydd fel cyweirnod y llythyr hwn, cyweirnod bywyd Paul yw ... y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd (8). Nid meddiant personol yw’r Efengyl meddai Paul, yn yr act o dderbyn Crist rhaid rhannu Crist ag arall. Anadl-einioes bodolaeth yr eglwys o’r dechrau yw bod yn rhaid rhannu'r Gwir Gyfiawnder faint bynnag y rhwystrau yn y ffordd, faint bynnag y terfysg a achosai.

Adnodau i'ch sylw:

  • Eseia 53:11

  • Ioan 17:3

  • Rhufeiniaid 2:29; 7:6

  • Galatiaid 2:16

  • Colosiaid 2:11

I ysgogi trafodaeth: ·

Yng nghyd-destun adnodau 7, 8 & 9, trafodwch eiriau Arthur Hallam wrth sgrifennu at ei gyfaill Tennyson: I find that Christ seems to fit into every fold of my being.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

RHYWBETH I WNEUD ... O'R IEUENGAF I'R HYNAF

Wedi darllen yr 8fed Salm, chwilwch am yr ‘8’ yn y ddelwedd isod!

Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist. Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!