Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
JOSEFF? Y SAER JOSEFF?
Joseff? Y saer, Joseff? Wel, ydw' siŵr iawn, adnabod Joseff ers blynyddoedd. Dyn da - a chrefftwr heb ei ail. Un o deulu da; yn ôl pob sôn, gall olrhain hanes ei deulu ‘n ôl i Dafydd Frenin. Un tawel yw Joseff cofiwch, ond pan mae Joseff yn siarad, mae pawb yn gwrando. Ond, dw i’n cadw chi. Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Mae gweithdy Joseff ar gornel waelod y ffordd honno. Os bydd Joseff allan yn gweithio’n rywle, bydd y meibion yno mae’n siŵr. Iago; ac Iesu, yr hynaf, a mae hwnnw'r un ffunud a’i fam! Sori? Angylion? Digon nawr. Taw piau hi syr! Mab Joseff yw Iesu, yn union fel Iago a’r merched, peidiwch â choelio’r si a’r sôn, na chodi bwganod. Hen hanes yw hynny, a heb fod yn fusnes i mi, na chi. Deall? Gobeithio nad oes brys arnoch. Mae Joseff lan i’w glustiau! Mae’r Rhufeiniad yn brysur - brysur yn lladd. Mae Joseff newydd dderbyn gwaith ganddynt - trawstiau i’w croesau; dim ond y Rhufeiniad allai ddangos y fath ddyfeisgarwch wrth ladd dyn! Ydi, mae Joseff yn brysur y dyddiau hyn; nawr dw i wedi cadw chi - a chi wedi cadw fi’n rhy hir - felly i ffwrdd a ni’n dau! Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Shalom!
Diolchais iddo, ac o ddilyn ei gyfarwyddiadau, mi ddois i weithdy Joseff. Roedd y drysau yng nghau, ond y lle’n amlwg brysur. Roeddwn ar fin agor un o’r drysau mawr, pan glywais lais, Joseff mae’n rhaid, yn siarad ag un o’i fechgyn, methais a gweld pa un. “Nawr, clyw fachgen, dwi ddim yn hoffi’r gwaith yma, dim mwy na ti, ond mae rhaid i ni fyw, rhaid cael cig i’r crochan! Gwna dy waith! Mae cael y pren yn llyfn o leiaf yn esmwytho ychydig ar y boen y truan fydd yn hongian arno!” Oedodd am ychydig, ac yna mi glywais ef yn siarad eto, ei lais y tro hwn yn drymach. “‘Dwi wedi dweud a dweud, dwyt ti ddim i siarad fel yna! Bydd siarad fel yna yn cael ti i drwbl! Arswyd fachgen, efallai byddi di yn hongian ar un o rain ryw ddydd! Ac i ti’n gwybod cymaint mae dy fam yn poeni amdanat!”
Ni fu ymateb; mi gerddais ymlaen, gan benderfynu galw eto maes o law. Gallai archebu fy nghadair newydd aros awr neu ddwy.
Ond, roedd hynny blynyddoedd yn ôl bellach. Mi ges i’r gadair. Gwaith y mab ydoedd, Iesu; a chadair esmwyth, soled yw hi hefyd!
Mae Joseff yn ei fedd. Ddoe, bûm yn sefyll ar Galfaria, a gweld hunllefau’r hen saer wedi eu gwireddu bob un.
‘Gweithdy Joseff’; 1959. Jean Charlot.
RHYWBETH I WNEUD ... O'R IEUENGAF I'R HYNAF
Dydd Gwener y Groglith.
Boed bendith.
ECCE HOMO NEU ECCE HOMINES?
Mae’n hawdd diflannu i blygion torf.
Es i mewn i’w chanol hi, at ei chalon, ac aros.
Hawdd hynny, gan mai aros roedd pawb ohonom.
Aros tu allan i’r Praetoriwm.
Daeth Pilat allan atom a hawlio datganiad ffurfiol o’r cyhuddiad yn erbyn y saer o Nasareth.
Nid oedd neb o’r arweinwyr yn barod gyda chyhuddiad a allai apelio at Pilat; felly osgoi'r cwestiwn a wnaethant.
Ni chafodd ateb, ni chafodd y cyhuddiad, ac mae’n rhaid felly, meddyliais, mae dyma ddiwedd y rhialtwch hwn, a diolch am hynny; ond aeth Pilat yn ôl i’r Praetoriwm.
Rhyfedd.
Maes o law, daeth yn ôl allan atom - buasai Iesu’n rhydd maes o law.
Na, cynigiodd ddewis i ni: Barabbas neu Iesu.
Dechreuodd rywrai weiddi am Barabbas.
Barabbas!
Bûm dawel, gan weiddi dros neb.
Mudandod gwael, ac o’i herwydd daeth i mi gadarnhad o’m hofnau gwaethaf: esgus o ddyn ydwyf wedi’r cyfan.
Wedi iddynt - wedi i nyni ddewis - Barabbas, aethpwyd ag Iesu i’w arteithio; a ninnau’n aros, aros i gael gweld y dyn.
Daeth Pilat a dangos i ni'r hyn oedd yn weddill o’r saer.
Dyma’r dyn, meddai. Ecce Homo.
Dyma’r olwg sydd ar y dyn hwn bellach; nid rhaid i chi mwyach ei ofni na chenfigennu wrtho.
Gan hynny goddefwch chwithau i minnau’n awr ei ollwng yn rhydd.
Ecce Homo?
Ond, nid felly y bu.
Gwaeddasom “Croeshoelia, croeshoelia ef.”
Gwaeddasom felly, gan mae nid gweld y dyn a wnaethom, ond gweld ein hunain.
Gwaeddais am waed y saer gan i mi ei weld, a deall bod hwn wrth ddioddef hyn oll wedi amlygu ein cyflwr.
Nid Ecce Homo, ond Ecce Homines: wele’r ddynoliaeth!
‘Ecce Homo’ gan Antonio Ciseri (1821-1891)
GRAWYS #3 YR ANGYLION
Dymunai’r angylion ein helpu gyda’r Grawys. (Luc 2:8-20)
Braint mawr iawn cael cwmni angylion Duw - cedyrn blant y gogoniant - a chlywed eu hanthem ogoneddus: Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd ...
Gwelodd y bugeiliaid goleuni na fu erioed o’r blaen ar dir na môr, a chlywsant soniarus gân y nefol gôr. Ond, y drafferth gydag angylion yw eu bod nhw byth yn aros yn hir!
I’r bugeiliaid, braint fer iawn ei pharhad oedd braint eu cwmni. Ciliodd yr angylion, ac ni fu dywyllwch tebyg i’r tywyllwch hwnnw wedi diflannu'r gogoniant a ddisgleiriodd o’u hamgylch y noson fawr honno, ond sylwch: Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt …
Mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i brofi dilysrwydd ein profiadau.
Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.
Y mae gan Dduw ei bwrpas wrth alw’r angylion yn ôl. Danfonwyd hwy i gyhoeddi’r newyddion da o lawenydd mawr, a geilw hwynt yn ôl er mwyn rhoddi i ni’r cyfle i roi prawf ar yr hyn a glywsom.
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd mai pethau i’w brofi - nid i’w clywed yn unig - yw addewidion Duw. Nid digon yw clywed am y geni, y weinidogaeth, y groes, y bedd gwag a’r esgyniad - rhaid gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.
Yn ail, mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i adnabod Un sydd yn well na hwy.
Peth mawr i’r bugeiliaid hyn oedd cael cwmni angylion Duw; ond mae’r bugeiliaid yn gwybod fod cwmni hyd yn oed yn well, hyd yn oed yn uwch na chwmni angylion yn eu haros yn y preseb. Yn eu haros yno oedd y peth mawr; sylwch: Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano. Iesu - yw y peth!
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd fod rhaid i’r sêr ddiflannu pan mae’r haul yn codi!
Yn olaf, mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i adnabod yr Hwn na fydd yn gadael byth.
Dod i fynd mae’r angylion, dod i aros mae’r Mab. Ac wele, yr wyf gyda chwi bob amser, hyd ddiwedd y byd. (Mathew 28:20)
Profiad anoddaf ein bywyd yw gweld popeth o’n cylch yn newid a hynny’n anorfod. Gwelwn fod y byd yn newid, ein hamgylchiadau’n newid, pobl yn newid, anwyliaid yn newid, a ninnau’n hunain yn newid.
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd fod cariad Duw yng Nghrist byth yn newid.
Os caf aralleirio emyn Cernyw - heb, obeithio, gwneud cam ag ef nac â’r Efengyl chwaith -
... syfled oesau, cilied angel,
mae Iesu Grist yn para’r un.
Mabel Royds; 1938
‘O DEUWN OLL YNGHYD …’
Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth.
Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
RHYWBETH I WNEUD ... O'R IEUENGAF I'R HYNAF
Symud a gweddïo; gweddïo wrth symud?
Beth amdani?
Y bwriad yw i’r ymsymudiad hwn gael ei ail adrodd dair gwaith o leiaf.
Gellir gwneud hyn wrth sefyll, eistedd neu benlinio.
Gweler y darlun uchod.
Mewnanadlwch a chodwch y ddwy fraich i fyny ac ymlaen, gan edrych i fyny, ymgyrraedd ac ymestyn i fynegi perthynas â Duw ein Creawdwr.
Yna, anadlwch allan a rhowch eich breichiau i lawr wrth eich ochr ar lefel yr ysgwyddau a’r cledrau ar i fyny i ffurfio croes. Daliwch nhw yma a rhowch eich sylw ar Iesu, ein Gwaredwr.
Profwn drydydd person y Drindod, sef yr Ysbryd Glân o’n mewn ac yn ein plith. Mewnanadlwch a rhowch eich dwylo i mewn tuag at y galon. Yna, anadlwch allan ac ymgyrraedd ymlaen gyda’r cledrau i fyny mewn ystum o dderbyn neu groesawu.
Yn olaf, ewch â’ch dwylo’n ôl at eich mynwes fel petaech chi’n gweddïo.
Mewnanadlwch ... a dechrau eto.
RHYWBETH I WNEUD … O’R IEUENGAF I’R HYNAF
Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.
(Diarhebion 17:22)
Chwilwch am 12 wyneb llonnach na’r gweddill i gyd.
