'YMLAEN': YR WYTHNOSAU NESAF HYN

Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth.

Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

Dosberthir taflenni newydd i gartrefi’r aelodau bob pythefnos.  Trwy’r cyfrwng hwn gallwn i gyd fod yn rhan o fyfyrdod yng nghwmni ein gilydd a’n Gweinidog fel teulu.

Gan fod yn gwbl ymwybodol fod hwn yn gyfnod pryderus i lawer, anogir yr aelodau i gysylltu â’r Gweinidog neu’r Ysgrifennydd os ydynt yn dymuno cael sgwrs neu fod angen cymorth ymarferol - yn arbennig felly os wedi hunan-ynysu.  Mae gennym nifer o aelodau sydd yn awyddus i fod o gymorth. 

Dymunwn bob bendith i bawb yn y cyfnod anodd a heriol hwn.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). Sgwrs i’r plant a phlantos; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau’n seiliedig ar Lythyr Paul at Gristnogion Rhufain. Testun ein sylw fydd: Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. (Rhufeiniaid 8:28). Bydd Joseff yn gymorth i’r Gweinidog wrth fynd i’r afael â’r adnod fawr hon.

Braint eto, pnawn Sul (14:30), fydd cael bod fel eglwys, yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

Liw nos yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) parhawn â’r gyfres o bregethau: ‘Adnodau Ych!’. Bwriad Owain yw mynd i’r afael â’r darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny. Echel y myfyrdod y tro hwn yw Mathew 2:16-18. Clywir o hyd, llef ... wylofain a galaru dwys: Rachel yn wylo am ei phlant. Boed bendith.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (17/3; 19:30 yn y Festri): ‘Traddodiad Llenyddol Gwent’ yng nghwmni Frank Olding.

Babimini bore Gwener (20/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Bore Mercher 18/3: Taith Gerdded ym mharc Cosmeston (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).

GRAWYS #1 Y DOETHION

Dymunai’r Doethion ein helpu gyda’r Grawys

Rhufeiniad 12: 11-12

Wrth ystyried pererindod y Doethion neu’r Sêr-ddewiniaid, tueddwn i feddwl amdanynt yn dechrau ar eu taith pan welsant seren newydd yn y ffurfafen, ond o feddwl ychydig yn lletach am hyn o beth, mae’n rhaid bod eu taith wedi dechrau ymhell cyn hynny; wedi’r cyfan nid gwaith hawdd yw gweld seren newydd yng nghanol holl sêr y gofod! Er mwyn gweld seren newydd heb batrwm, rhaid eich bod yn gyfarwydd â threfn yr entrych: patrwm arferol yr holl sêr.

Wrth syllu i’r gofod a’r noson oer, glir, ceisiwch gyfri’r sêr - gwaith amhosibl. Rywbeth ychydig yn haws felly: syllwch i’r gofod gan gofio sut mae un seren yn perthyn i gadwyn, neu i batrwm o sêr.  Cofiwch ddysgu enwau’r patrymau. Buasem ni'n gallu syllu i’r gofod am wythnosau, os nad misoedd heb sylwi fod rhywbeth bach wedi newid, a hynny’n syml am na wyddom ein ffordd o gwmpas y sêr; eu patrymau’n ddryswch i ni, a’u teithiau’n ddieithr. Ffrwyth blynyddoedd o ymroddiad a disgyblaeth yw gwybod digon am sêr y nos i sylwi fod rhywbeth wedi newid, fod patrwm wedi torri, mwclis o sêr wedi ymddatod a bod seren newydd ar newydd daith. Bu’r Sêr-ddewiniaid wrthi’n ddygn am flynyddoedd mawr. Syllant i’r gofod gyda gofal a deall.

Man cychwyn pererindod y Sêr-ddewiniaid oedd yr amser, egni, amynedd a fuddsoddwyd ganddynt i gael adnabod patrymau a theithiau’r sêr yn gywir a llawn. Dechrau’r daith oedd eu hymroddiad a’u disgyblaeth.

Mae ambell gerdyn Nadolig yn cyflwyno’r tri yn dilyn anferth o seren. Os mae seren fawr amlwg oedd seren Bethlehem, nid oedd yn rhaid, am wn i, i’r tri gŵr doeth i fod yn arbennig o ddoeth i’w gweld hi a’i chanlyn! Nid yw Mathew’n manylu am Seren Bethlehem, ond nid seren amlwg mohoni ... gwelsom ei seren ar ei chyfodiad (Mathew 2:2) meddai’r Sêr-ddewiniaid yn syml. Os seren amlwg ei maint a’i disgleirdeb oedd seren Bethlehem, buasai prif offeiriad, ysgrifenyddion y bobl a Herod wedi ei gweld hi, neu o leiaf wedi clywed si a sôn amdani cyn i’r Sêr-ddewiniaid gyrraedd Jerwsalem. A phe bai’r Sêr-ddewiniaid heb astudio’r sêr, yn gyson ofalus, gydag ymroddiad a disgyblaeth, buasent hwythau hefyd wedi colli’r seren newydd hon, ac o’r herwydd wedi colli’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Ond, gwelsant y seren, daethant i Fethlehem, gwelsant Dduwdod yn y cnawd - hyn oll oherwydd yr hir flynyddoedd o ymroddiad, dyfalbarhad a disgyblaeth.

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein helpu gyda’r Grawys ...

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein hatgoffa bod yn rhaid wrth ddisgyblaeth, oherwydd ni lwyddwn i ddysgu unrhyw beth heb inni fynd drwy gyfnod o ymdrech, ymroddiad a disgyblaeth sydd weithiau’n dreth ar ein hamynedd. Cyfnod o ymdrech, ymroddiad a disgyblaeth yw’r Grawys.

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein helpu gyda’r Grawys ...

Dymunai’r sêr-ddewiniaid ein hatgoffa nad yn ofer y sonnir am fywyd y Cristion fel brwydr. Y mae’n frwydr yn erbyn anawsterau allanol weithiau, ond mae’n frwydr yn gyson yn erbyn ein llacrwydd personol, ein hymroddiad anwadal, ein disgyblaeth gyfnewidiol.

Cyfnod i gydnabod hyn yw’r Grawys, cyfnod i fynd i’r afael â’r pethau hyn yw’r Grawys.

James Jacques Joseph Tissot (1836-1902)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (8/3 am 9:30 yn y Festri). Testun ein sylw fydd un o ffrindiau Iesu ... ond pa un? Bydd rhaid i chi ddyfalu!

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan barhau â’r gyfres o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun sydd gan Owain ar ein cyfer. Drws, drysau a chragen Bedr fydd testun ein sylw. Dewch â chroeso.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ein harwain at neges y Grawys trwy gyfrwng y Nadolig. Bethlehem Effrata (Micha 5:2) bydd ein man chychwyn, gyda’r cyfarfod nos Fawrth yn barhad pan fydd cyfle i’r Sêr-ddewiniaid i estyn cymorth wrth i ni fynd i’r afael â her y Grawys.

Nos Lun (9/3; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (10/3; 19:30-20:30 yn y Festri): ‘Grawys #1 Y Sêr-ddewiniaid’. Darperir nodiadau ‘Y Grawys a’r Nadolig’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (11/3): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

'BETHANIA': JOSUA (11)

Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 24:14-28

Uchafbwynt crefydd Israel oedd y cyfamod a wnaeth yr Arglwydd â’r genedl ar Fynydd Sinai. Trwyddo daeth Jehofa’n Dduw i’r Israeliaid a hwythau’n bobl iddo ef.

Gweithred olaf Josua oedd galw ar y llwythau i adnewyddu’r cytundeb pwysig hwn rhyngddynt hwy â’r Arglwydd. Felly Josua a wnaeth gyfamod a’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem (adnod 25) Eisoes y mae Josua wedi apelio ar Israel i ddewis rhwng yr Arglwydd a’r duwiau estron. Dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch (adnod 15).

Ar sail y dewis hwn yr adnewyddir y cyfamod ac y rhoddir i Israel gyfle arall i ymgysegru i wasanaeth y Duw a’i harweiniodd o’r Aifft i Ganaan. Y mae’r dewis sy’n wynebu Israel nid yn unig yn fater o bwys ond hefyd yn fater o frys. Y mae’n rhaid iddo gael ei wneud heddiw. Y mae’r pwyslais ar y presennol, oherwydd dyma’r unig amser sy’n berthnasol i’r sawl sy’n dewis. Nid oes gan yr un ohonom y gallu i newid doe na threfnu yfory, ond medrwn ddewis rhwng gwneud rhywbeth a pheidio â’i wneud heddiw. Nid gan ein hamgylchiadau y mae’r gair olaf. Y mae gennyn ni oll y rhyddid i ddewis rhwng un ffordd o fyw ac un arall.

Er mwy cynorthwyo Israel i ddod i benderfyniad a gwneud y dewis cywir, y mae Josua yn rhoi arweiniad pendant trwy fynegi’’n eglur ei safbwynt ei hun. Ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd (adnod 15). Crefydd bersonol yw crefydd Josua. Y mae ef wedi gwneud ei ddewis ac y mae’n barod i gadw ato. Y mae ei ddylanwad yn amlwg ar ei deulu, ac nid oes lle i amau iddo gael yr un dylanwad ar Israel. Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd i wasanaethu duwiau dieithr oedd ymateb parod y gynulleidfa (adnod 16)

Y mae esiampl arweinydd cenedlaethol neu riant/cyfaill/cymar mewn materion crefyddol, fel ym mhob dim arall, yn gymorth i eraill pan ddaw’r amser i ddewis. Dylem ninnau fel Josua fod yn ddigon agored ein meddwl i gyflwyno dwy ochr i ddadl, ac ar yr un pryd fynegi’n bendant ein dewisiad ni ein hunain. Nid gwthio’i syniad a’i wneud yn orchymyn a wnaeth Josua, ond yn hytrach ymresymu’n deg a doeth, a chynnig ei benderfyniad ef ei hun yn esiampl i’r genedl.