'BETHANIA': JOSUA (10)

Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 24:1-13

Yn y traddodiad Cristnogol cynnar disgrifir Esau, mab Isaac a Rebeca fel gŵr halogediga werthodd am bryd o fwyd ei freintiau fel mab hynaf (Hebreaid 12:16). Cyfeiriad yw hwn at y stori adnabyddus yn Genesis 25:29-34 lle y daw Esau adref ar lwgu ar ôl diwrnod called o waith, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i’w frawd am bowlenaid o gawl. O’r dydd hwnnw, Jacob fyddai’n etifeddu’r addewidion a wnaeth Duw i’r Tadau, tra cyfrifir Esau yn ddyn halogedig a diegwyddor na welai unrhyw werth ym mreintiau’r cyntaf-anedig.

O gofio hyn, ni synnem pe bai Jacob yn byw mewn heulwen barhaus ac Esau yn diflannu i’r tywyllwch wedi ei lwyr anwybyddu gan Dduw. Ond, fel y mae Josua’n atgoffa’r Israeliaid, nid dyna ddigwyddodd. I Esau rhoddodd yr Arglwydd, fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft (adnod 4). Cafodd Esau ddarn ffrwythlon o dir yn ymestyn o’r Môr Coch - sef gwlad Edom yng nghysgod Mynydd Seir. Ymsefydlodd ef a’i blant yno a thyfu’n genedl gref a llwyddiannus.

Ond stori wahanol oedd stori Jacob. Er mai arno ef y dibynna dyfodol y genedl - am mai ef oedd etifedd yr addewidion - nid ddaeth hawddfyd a ffyniant i’w ran. Bu’n rhaid iddo fynd i lawr o’r Aifft lle y dioddefodd ei blant bedwar can mlynedd o gaethiwed called cyn elwa o’r bendithion. Diau fod llawer ohonynt wedi dyfalu droeon pa faint gwell oedd Jacob o dderbyn yr enedigaeth-fraint os mai dyma’r canlyniadau i’w ddisgynyddion!

Yn ei bregeth olaf i’r llwythau y mae Josua yn cyfeirio at y tro rhyfedd hwn yn eu hanes. Ond yn lle pwysleisio’r anawsterau, y mae’n gofyn i’r Israeliaid ystyried y gwersi a ddysgasant. Ni fu’r caethiwed a’r crwydro’n golled i gyd o bell ffordd. Ynddynt magodd y genedl ddycnwch a dewrder. Daeth yn ymwybodol o gynllun Duw iddi a dysgu beth oedd ystyr ffydd ac ymddiriedaeth. Yn y diwedd, cyrhaeddodd yn ddiogel i wlad yr addewid.

Fel hanes Israel gynt, y mae bywyd y Cristion yn llawn treialon sy’n gallu creu amheuaeth a siomiant a phoen. Salwch, profedigaeth, tlodi, newid byd anorfod - pwy sydd heb brofi o leiaf un ohonynt, a phwy sydd heb ofyn ‘pam’?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (9/2 am 9:30 yn y Festri). Testun ein sylw fydd un o ffrindiau Iesu ... ond pa un? Bydd rhaid i chi ddyfalu! Dewch â chroeso.

Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan barhau â’r gyfres o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun (neu efallai pedwar y tro hwn) sydd gan Owain ar ein cyfer. Gellid rhag blaen ystyried yn weddigar yr adnod gyfarwydd hon: Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad. (1 Corinthiaid 13:13)

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ein hannog i ystyried ymhellach neges ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.

Nos Lun (10/2; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (11/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (12/2): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion.

Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). Sgwrs i’r plant a phlantos; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: ‘Adnodau Ych!’. Bwriad Owain yw mynd i’r afael â’r darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny. Echel y myfyrdod y tro hwn yw’r ddelwedd filwrol. Da fuasai darllen rhag blaen y 6ed bennod o Lyfr Josua ac Effesiaid 6:10-18.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ein hannog i ystyried neges y ddraenen ddu. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (4/2; 19:30 yn y Festri): “Cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod Dirwasgiad 1930” yng nghwmni Ellen Phillips.

Babimini bore Gwener (7/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

Taith Gerdded (7/2; 10:00-13:30): dros y morglawdd (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Gethin Rhys (Cytûn). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.

Nos Lun (27/1; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (28/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Bydd Oedfaon y Sul dan arweiniad ein Gweinidog. Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). I’r plant a phlantos, sgwrs am fod fel un yn un. ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Iachawdwriaeth: ddoe, heddiw ac yfory fydd hanfod myfyrdod yr Oedfa hon. Awgrymir darllen rhag blaen Rhufeiniaid 5:1-11.

Liw nos (18:00) bydd Owain yn ymdrin ag anogaeth y Salmydd (34:13,14): ... cais heddwch a’i ddilyn. Echel ei bregeth fydd ystyr a goblygiadau goddefgarwch.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (21/1; 19:30 yn y Festri): “Fy milltir sgwâr” yng nghwmni Eldrydd Williams a Geoff Thomas.

Bore Gwener (24/1; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod Llythyr Paul at Gristnogion Philipi.