'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Deisyfwn fendith ar Oedfaon y Sul. Bydd ein Hoedfa Foreol (10:30) dan arweiniad Owain: ‘Tirweddau Gweddi’. ‘Rydym eisoes wedi ystyried yr Ardd a’r Mynydd; Glan Môr a’r Goedwig, yr Anialwch a’r Afon. Testun ein sylw bore Sul fydd yr Ogof: un proffwyd a phum brenin! (1 Brenhinoedd 19 a Josua 10:15-21). Cynhelir Ysgol Sul. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Yn ein Hoedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: ‘Newyddion Da y Pregethwr’. Gellid darllen rhag blaen Pregethwr 3. Awgryma Owain fod y Pregethwr yn nhestun ein sylw (3:15; Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.) ar ei waethaf ac ar ei orau! Ymhlyg yn y lleddf mae llawenydd o’r mwyaf. Am wybod rhagor? Dewch â chroeso mawr.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.

PIMS nos Lun (3/6; 19:00-20:30 yn y Festri).

Nos Fawrth (4/6; 19:30-20:30 yn y Festri) Gweddïo’r Salmau gyda’r holl greadigaeth: Salm 10: 9a; Salm 49: 12/20 a Salm 148. Down ynghyd i weddïo ... oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ocheneidio, ac mewn gwewyr drwyddi ... (Rhufeiniaid 8:22)

Babimini bore Gwener (7/6; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

DYDD IAU DYRCHAFAEL

Gwelir ar ambell ddrws caeëdig yr arwydd: Do Not Disturb. ‘Peidiwch ag Ymyrryd’: mae ynom dueddiad fel pobl ffydd i osod y fath orchymyn wrth  fwlyn drws ein calon. At ddrws clo ein calon fe ddaw allwedd y Dyrchafael.

Cyn y Dyrchafael mae presenoldeb Crist wedi ei gyfyngu i un lle ac i gyfnod penodol o amser. Ar ôl y Dyrchafael mae ei bresenoldeb yn britho pob lle a phob cyfnod. Dichon mai yno mai'r drafferth. Onid yw’n haws ymdopi â Christ sydd yn gyfyngedig i un lle ac i un cyfnod hanesyddol? Mae gennym i gyd ein delweddau ohono, delweddau a grëwyd (ac a garcharwyd) gan ein magwraeth a’n meddylfryd ein hunain. Gwnawn Grist ar ein llun a’n delw.

Ond nid ein heiddo ni mo Christ; eiddo Crist ydym ni. Golyga hyn nad oes gennym fonopoli ar ei bresenoldeb nac ar ei fendith. Mae’r Dyrchafael yn amlygu hyn o ffaith. Cofiwn eiriau Crist i’w ddisgyblion: “... chwithau arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.” (Luc 24:49b) Yn yr “chwithau arhoswch” hwnnw fe’n rhybuddir na allwn ni reoli symudiadau’r Ysbryd Glân. Onid dyna’r ymyrraeth â’n byw a’n bod, ein crefydd a chrefydda a ofnwn gymaint. Yn sgil y Dyrchafael nid oes yr un tamaid o’r ddaear hon, na’r un tamaid lleiaf ohonom yn rhy anghysbell i brofi gwefr a her y Crist atgyfodedig a dyrchafedig.

'BETHANIA': ESTHER

Fe ddown heddiw i ddiwedd ein hastudiaeth o Lyfr Esther.

Esther 9: 30-32

Sefydlwyd Pwrim i gadw’r waredigaeth mewn cof. Dyma’r disgrifiad a geir o’r ŵyl yn adnod 22: Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.

Daeth yr ŵyl yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol, daeth Pwrim yn dymor llawenhau. Erbyn heddiw, erys y pwyslais ar lawenhau: gwledd a llawenydd, ond fe gydiwyd hefyd yn yr hyn a welir yn adnod 31: I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd.

Esther 10

Teyrnged i Mordecai a’r brenin Ahasferus a geir yn y bennod olaf. Canmolir Mordecai fel gŵr doeth a charedig, yn bwysig ym materion ymerodrol ac yn cael ei garu gan yr holl Iddewon.

Beth felly a ddywedwn am Lyfr Esther?

Dywed rhai bod llyfr Esther yn gampwaith! Mae gennym y cnaf Haman; Esther yr arwres brydferth a dyfeisgar; a’r brenin Ahasferus, druan ohono, mae rhywbeth comig amdano, pawb yn ei dwyllo. Mae’n wir nad yw enw Duw yn y llyfr hwn yn unman, ond, yng nghysgod un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes, yr Holocost - ymgais y Natsïaid i ddifa’r Iddewon o diroedd Ewrop - mae hanes Esther yn eithriadol bwysig i’r Iddew a’r Cristion fel ei gilydd.

Fel prif weinidog y brenin Ahasferus, ‘roedd Haman yn ddigon bodlon ar ei fyd. Nesaf at y brenin, ef oedd y pwysicaf yn y deyrnas, ac ‘roedd pawb yn deall hynny. Buasai pawb yn moesymgrymu iddo ... pawb ond un. Iddew o’r enw Mordecai. Wrth i bawb arall gynffonna iddo, safai hwn yn dalsyth. ‘Roedd Haman wedi blino ar ystyfnigrwydd yr Iddew yma! Penderfynodd ddial arno a phob Iddew ym Mersia. Gyda chyfrwys berswâd, argyhoeddodd y brenin fod yr Iddewon yn fygythiad i ddyfodol ei deyrnas; rhaid eu difa yn llwyr ac yn gyfan.

Wedi deall bwriad Haman, aeth Mordecai at ei gyfnither, Esther, brenhines Persia, ac erfyn arni i eiriol ar ei gŵr ar ran ei phobl. ‘Roedd Esther yn gwybod, fod y sawl a âi mewn at y brenin heb ganiatâd yn sicr o’i roi i farwolaeth. Ond er gwaethaf y perygl cydsyniodd Esther, gan ddweud os trengaf, mi drengaf. Ildiodd y brenin i swyn Esther - cyfuniad cyfrwystra a phrydferthwch yn troi cynllun dieflig Haman a’i ben i waered. Syrthiodd Haman i’w fagl ei hun. Crogwyd Haman ar y grocbren y cododd i grogi Mordecai arno.

Hyd y dydd heddiw darllenir hanes Esther mewn synagogau ledled y byd yn ystod gŵyl Pwrim. Rhoddwyd ei dewrder ar gof a chadw am byth.

Ond wedyn, rhaid hefyd cydnabod nad yw llyfr Esther yn grefyddol ei naws o gwbl. Mynega deimladau cenedlaethol ar eu gwaethaf. Yn ogystal â bod y neges grefyddol ar goll, y mae’r elfen foesol hefyd yn bur isel. Sonnir am ddialedd mawr yr Iddewon ar y cenhedloedd, ac y mae’n amlwg mai mewn cyfnod o frwydro caled ac o ddyheu am oruchafiaeth y cyfansoddwyd ef. Nid agorwyd y drws led y pen iddo i mewn i’r Canon Hebreig a bu condemnio mawr arno ar ôl hynny.

Beth felly a ddywedwn am Lyfr Esther?