'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar dan arweiniad Owain (12/5 am 9:30 yn y Festri). ‘Y Pell yn Agos: yr Agos yn Bell’ fydd thema’r Oedfa hon! Dewch â chroeso i gael deall mor bwysig yw gweld y pell yn agos, a’r agos yn bell i fywyd, cenhadaeth a gwasanaeth yr eglwys leol. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at GYMORTH CRISTNOGOL yn oedfaon y dydd a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd. Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) parhawn â’r gyfres ‘Newyddion Da y Pregethwr’. Trown y tro hwn at yr ychydig adnodau sydd yn gorwedd yng nghysgod y pennawd trwm: Profiad y Pregethwr. (1:12-18) Bu’r Pregethwr y ddyfal a dygn wrth astudio. Gellid ond parchu’r ymdrech i chwilio trwy ddoethineb, y cyfan sy’n digwydd dan yr haul. Yn wir, daeth llwyddiant o fath: ... cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth ... do ... ond, mae’r Pregethwr yn ychwanegu: ... a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt. Mae’r ymdrech i ddeall a dehongli yn ofer. Cymuned onest yw’r eglwys brydferth; pobl yn llwyr a llawn sylweddoli fod ein gwybodaeth o Dduw yn tyfu dim ond wrth gydnabod ein hanallu i wybod amdano. Bydd cyfle eto i gyfrannu tuag at Gymorth Cristnogol yn yr Oedfa hon a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd.
Liw nos, am 18:00; da fydd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys (Heol Richmond). Pregethir gan y Parchedig Athro John Tudno Williams (Aberystwyth). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street. Hyfrydwch, fel eglwysi’r ddinas, yw cael y cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Nos Fawrth (14/5; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at y bennod olaf nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (15/5): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Prynhawn Iau (16/5; 12:15-13:30) Cyfle i glywed newyddion diweddaraf Cymorth Cristnogol drwy law John Rowlands (Cadeirydd dros dro Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol yng Nghymru) dros ginio ysgafn (£5 yr un tuag at Cymorth Cristnogol) yn festri Eglwys y Crwys (Heol Richmond). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.
Babimini bore Gwener (17/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Dydd Sadwrn (18/5): Cyfundeb Dwyrain Morgannwg - Taith Gerdded "Heddwch yn y Ddinas" yng nghwmni Jon Gower (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Yn ein Hoedfa Foreol bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau: ‘Newyddion Da'r Pregethwr’. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw'r cwbl. Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? (Pregethwr 1:2)
Newyddion da? Pa newyddion da sydd yma? Mae neges y Pregethwr - ei newyddion da - yng nghudd yn y cymal bach: dan yr haul. Cyfrinach byw yn ddedwydd dan yr haul yw cydnabod yr Hwn sydd y tu hwnt i’r haul! Os am wybod rhagor, dewch â chroeso bore Sul am 10:30. Cynhelir Ysgol Sul.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Liw nos (18:00), o’r diwedd, o’r hir ddiwedd, cawn gyfle i ail-gydio yn y gyfres: ‘Tirweddau Gweddi’. ‘Rydym eisoes wedi ystyried yr Ardd a’r Mynydd; Glan Môr, y Goedwig a’r Anialwch. Nos Sul, testun ein sylw yw’r Afon. (Eseciel 47:1-12)
Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
'BETHANIA': ESTHER
Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 8 a 9.
Esther 8
Dyma un o rannau pwysicaf y stori. Cais Esther dynnu’n ôl y gorchymyn a roddwyd i ddifetha’r Iddewon. Mae’r brenin yn caniatáu hyn a rhagor: ... ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â’r Iddewon yn fy enw i ... (Esther 8:8). Mordecai sydd yn paratoi'r wŷs (ad.9), ac mae’r hawl i ddial yn amlwg ynddo (ad.13). Amlygir perygl hyn oll mewn ychydig eiriau cynnil ar ddiwedd y bennod: ... yr oedd llawer o bobl y wlad yn mynnu mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon. Cyfnewidiwyd arswyd Haman am arswyd yr Iddewon (ad.17). Dyma un o negeseuon pwysicaf y stori, neges sydd yn aml yn ddi-sôn-amdani.
Pregethai Joseff Jenkins un nos Sadwrn tua throad yr hen ganrif yn Dinorwig yn Arfon. Eisteddai’r gweinidog - John Puleston Jones, yn y Sêt fawr. ‘Sut yr oeddynt yn meiddio rhoddi coron o ddrain ar ei ben? Sut gallent boeri yn ei wyneb a’i watwar? Sut nad oedd ganddynt moi ofan E? Fe’i gwelsant yn iachau’r cleifion, ac yn codi’r meirw. Pe gwelech chi, bobl Dinorwig yma ddyn yn gwneud pethau felly - buasai gennych ormod o’i ofan i boeri yn ei wyneb. Ie, ond gwybod yr oeddynt na allai Ef daro’n ôl! ‘Roedd wedi ei hoelio i’r groes! Ni allai daro’n ôl!’
Cododd Puleston ar ei draed - a rhoddodd ochenaid fawr dros y capel. Ymhen blynyddoedd wele Puleston yn ysgrifennu am yr Iawn. ‘Mi ath yn benbleth trwy lysoedd y fagddu pan ddaeth yr Oen i’r maes. ‘Mi dy laddwn i di’, meddai Pechod. ‘Wel i gael fy lladd y deuais i i’r byd’ meddai’r Oen. Mi ddeil yr Oen ati nes bydd cyrn y bwystfil wedi treulio i’r bôn, a’i ewinedd wedi gwisgo i’r byw. Byddaf yn meddwl fod gelynion Iesu Grist wedi ei nabod yn well na’i ddisgyblion.’
Esther 9
Daeth y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis: y dydd arswydus. Beth wnâi'r Iddewon? Yr oedd rhai o gefnogwyr Haman o hyd yn fyw. 500 o leiaf yn y ddinas ei hun. Yr oedd llawer mwy ohonynt yn y wlad yn barod i ailafael yn ei orchymyn. A ddylai Mordecai a’i gyd-Iddewon eistedd yn dawel i weld llofruddio eu gwragedd a’u plant, a chael eu lladd eu hunain? Daeth y sawl a ormeswyd yn ormeswyr. Lladdwyd tua 15,000 o bobl i gyd yn y deyrnas.
Mae’r awdur yn cyfiawnhau hyn oll gyda’r ddadl mai amddiffyn eu hunain oeddent (ad.16), ac fe gais cadarnhau hynny trwy ddefnyddio un cymal, trosodd a thro, (10 o weithiau yn y bennod hon): ... heb gyffwrdd â’r ysbail.
Hanes gwaedlyd, yn wir yw hwn. Gyda datguddiad uwch a rhagorach yr Efengyl i’n harwain, tybed a fyddem ni wedi ymddwyn yn well?
A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau. (Effesiaid 4:32)
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Bnr Aled Lewis Evans (Wrecsam). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
PIMS nos Lun (29/4; 19:00-20:30 yn y Festri).
Nos Fawrth (30/4; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at bennod 8 a 9 nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Babimini bore Gwener (3/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
HER EIN GRAWYS: GWEDDÏO GWEDDI'R ARGLWYDD HEB DDWEUD YR UN GAIR
Penderfynwyd eleni y buaswn yn mentro cyflawni rhywbeth fel cynulleidfa dros gyfnod y Grawys - Her ein Grawys.
Yr her oedd gweddïo Gweddi'r Arglwydd heb ddweud yr un gair!
Aethpwyd ati'n ddiwyd o Sul i Sul i ddysgu'n raddol y Weddi Fawr yn iaith y byddar.
Yn ein Hoedfa Foreol Gynnar, wedi mymryn o ymarfer terfynol, aethom ati, o'r ieuengaf i'r hynaf, o dan gyfarwyddyd sigledig ein Gweinidog - anghofiodd un cymal yn llwyr! - i gyfuno ystum a gair mewn gweddi.
Profiad buddiol bu hwn; llawn hwyl a bendith.
PA UN TYBED, A BWNIODD YR HOELION I’W LLE?
Pa un tybed, a bwniodd yr hoelion i’w lle?
Le Premier Clou (Yr Hoelen Gyntaf) gan James Tissot (1836-1902)
A bwniwyd yr hoelion trwy’r cnawd i’r pren, mewn dicter? o ddiléit? neu o ddyletswydd? - gwaith yw gwaith wedi’r cyfan ac mae’n rhaid i rywun gyflawni’r gwaith o ladd onid oes?
A gyflawnwyd y gwaith yn dwt, yn lân; neu a fu’r cyfan yn frysiog, anniben?
Ac wrth i’r hoelen suddo trwy’r cnawd i’r pren, a oedd rywbeth yn wahanol am y teimlad hwnnw, rhywbeth yn ddieithr: a deimlodd gwr yr hoelion hanes yn hollti o dan ergydion ei forthwyl?
A oedd yno i weld y diwedd, i glywed "Gorffennwyd"? Neu, a oedd adref gyda’i wraig, neu’n chwarae gyda’i blant; neu’n yfed gyda’i ffrindiau?
Pan ddaw Dydd y Dyddiau, a fydd hwn tybed, yn sefyll â maddeuant yn wawl o’i amgylch, ei bechodau yng nghrog wrth yr hoelion a bwniodd i’w lle?
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Bydded i chi Lawenydd y Pasg, sef Gobaith; Ysbryd y Pasg, sef Bywyd, a sylwedd y Pasg, sef Cariad.
Testun ein sylw bore Sul (10:30) fydd geiriau Pilat: Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch (Mathew 27: 66). Gwyddom un ac oll rywbeth am geisio gwneud y bedd mor ddiogel ag y gallwn - rhag ofn y wyrth. Ofn a gofid yw prif liwiau ein cyfnod. Clywsom cymaint o newyddion drwg fel nad ydym bellach yn medru ei glywed. Neges y Pasg yw bod popeth yn iawn. Iesu sy’n dweud hyn. Mae ganddo’r hawl i ddweud hyn oherwydd ei fod yn gwybod beth yw bod yn annwyl gan, ac yn amddifad o Dduw. Fe all ddweud hyn oherwydd iddo godi o farw’n fyw. Bywyd a orfu - ei fywyd yntau a orfu - ac felly nid oes pendraw i brydferthwch, rhyfeddod a bendith ein bywyd ninnau. Nac ofnwn! Ni ellir atal y Bywyd hwn. Cododd Iesu.
Liw nos am 18:00, Oedfa Gymundeb: torri bara yn Emaus, bwyta pysgodyn wedi ei rostio yn Jerwsalem. Awgryma Owain yn ei homili nos Sul nad mater o ddaeargryn, ac maen trwm wedi ei dreiglo i ffwrdd, angel neu angylion, llieiniau wedi eu plygu’n daclus, peraroglau a garddwyr yw’r Pasg mewn gwirionedd ond yn hytrach bwyta a chyd fwyta. (Luc 24:36b-48) Wrth y bwrdd, darganfyddwn y Crist byw. Mae Iesu'n treulio Sul y Pasg yn bwyta. Daw’r Pasg yn real i’r disgyblion, nid wrth y bedd gwag ond o gwmpas bwrdd bwyd. Felly, nos Sul, yn hytrach na mynd at y bedd gwag, awn o fwrdd i fwrdd, a darganfod tamaid wrth damaid rhywfaint o ryfeddod y Pasg. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.