Mathew 6.34a.
Mae’r adnod hon yn sôn am ‘yfory’ tra bod yr adnodau eraill yn sôn am ‘heddiw’.
Your Custom Text Here
Mathew 6.34a.
Mae’r adnod hon yn sôn am ‘yfory’ tra bod yr adnodau eraill yn sôn am ‘heddiw’.
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb tua 21:00.
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (8/4 am 9:30 yn y Festri). ‘Gwawl y Pasg’ fydd thema’r Oedfa hon: torri; syllu; gwisgo. Gweddïwn am fendith y ‘waw’ yn y ‘gwawl’! Bydd cyfle i gyfrannu tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) cawn dystio i fedydd Greta. Yn homili’r Gweinidog cawn sôn am ddydd Sul yr 17eg o Orffennaf 1966, a hynny yn ein harwain at ystyriaeth o’n hagenda fel eglwys yn lleol: Tangnefedd, Barn, Gwasanaeth, Bywyd.
Liw nos (18:00) â ninnau wedi tystio i fedydd yn yr Oedfa Foreol, bydd ein Gweinidog yn ei bregeth yn trafod y cwestiwn: 'Pam ŷm ni’n bedyddio plant?' (Actau 16:33).
Nos Lun 9/4; 19:00-20:00 Cyngerdd yng nghwmni Enlli Parri (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul). Dewch â chroeso.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (11/4): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
‘Abigail a Dafydd’ gan Il Caraccino (1655-1704)
ABIGAIL (1) 1 Samuel 25: 1-31
Yn blwmp ac yn blaen, ‘roedd Nabal yn ffŵl o ddyn! Yn ôl pob tebyg ‘roedd ganddo fwy o arian na synnwyr. Tra oedd ar ffo, yn cuddio rhag Saul, bu Dafydd yn gwarchod bugeiliaid Nabal a’i breiddiau. Onid rhesymol oedd disgwyl ychydig o fwyd a diod fel arwydd o werthfawrogiad? Pan glywodd Dafydd fod Nabal yn mynd i gynnal gwledd, anfonodd Dafydd negeseuwyr ato, gan ddisgwyl gwahoddiad i’r wledd. Gwylltiodd Nabal a gwrthod! Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi gwylltio, gwylltiodd yntau!
Fel sydd yn wir yn aml, ‘roedd gan y gŵr ffôl wraig gall: Abigail! Wedi clywed am ffolineb Nabal, ni wastraffodd eiliad, casglodd, pentyrrodd a llwythodd bob math o fwyd a diod, a chychwyn allan i gyfarfod â Dafydd. Pan welodd Dafydd yn agosáu, brysiodd i ddisgyn oddi ar ei hasyn a syrthio wrth ei draed. Dyma glasur o gyfarfod! Gyda geiriau dethol a chymedrol mae hi’n tawelu’r storm; gyda’i mwyneidd-dra mae’n lleddfu llid. Cafodd Dafydd ei swyno ganddi, yn llwyr ac yn gyfan. Cymerodd y rhodd, ac addo na fyddai niwed yn dod i gartref Nabal.
ABIGAIL (2) 1 Samuel 25: 32-44
Pan gyrhaeddodd Abigail yn ôl adref, ‘roedd Nabal yn feddw dwll! Penderfynodd Abigail beidio dweud dim wrtho hyd y bore. Pan glywodd Nabal, cafodd gymaint o fraw, daeth salwch sydyn drosto. Bu farw ddeg diwrnod yn ddiweddarach!
Gwnaeth dyfeisgarwch a gonestrwydd, craffter a phrydferthwch Abigail argraff fawr ar Dafydd. ‘Roedd rhywun oedd yn medru lleddfu ei dymer wyllt a’i gadw rhag gwneud ffŵl o’i hun yn berson werth ei chael wrth ei ochr. Pan glywodd fod Nabal wedi marw, fe aeth yn ôl ati a phriododd hi. Faint o ddylanwad gafodd Abigail ar Dafydd? Ni wyddom! Gwyddom i sicrwydd nad aelwyd hapus oedd aelwyd Dafydd; mae’n siŵr fod ddigon o alw wedi bod ar Abigail i leddfu tymer wyllt a thawelu storm.
Yng nghyd-destun yr hyn a wyddom am Abigail, trafoder y ddihareb a’r adnod isod:
Mam doethineb yw callineb.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr. (Mathew 5: 9a)
Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi, ac anodd iawn fu’r daith yr wythnos aeth heibio; buom yn llusgo’n ffordd trwy ddrygioni, casineb a marwolaeth; ond heddiw, gwyddom mai daioni, cariad, bywyd - y tri hyn - a orfu.
Yn ei lyfr ar Efengyl Ioan mae William Temple yn rhoi pennawd addas iawn i'r ddwy bennod olaf sy'n disgrifio'r Atgyfodiad - The Dawn. Y Wawr - dechreuad newydd a bendigedig! Ar fore’r Pasg fe ddaeth goleuni i chwalu tywyllwch angau; goleuni i goncro tywyllwch ofn ac ansicrwydd; goleuni i ddinistrio'r tywyllwch sy’n difetha bywyd.
Boed i ni fod yn bobl sydd yn gweld y golau hwnnw: ei weld ym mhrofiadau bywyd, da a drwg; ac o’i weld, byw yn ei lewyrch, ac o fyw ynddo, ymgysegru iddo, oherwydd Iesu yw’r golau - goleuni’r byd, goleuni ein bywyd.
Bydded i chi Lawenydd y Pasg, sef Gobaith. Ysbryd y Pasg, sef Bywyd, a sylwedd y Pasg, sef Cariad.
Anorchfygol! Bore Sul am 10:30, cynhelir Oedfa Deulu: ‘Anorchfygol’ fydd gair mawr yr Oedfa hon. Mae pwrpas Duw yn anorchfygol!
Mae Iesu’n anorchfygol!
Mae bywyd yn anorchfygol!
Dewch â chroeso i ddathlu a datgan newyddion da'r Pasg.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Liw nos am 18:00, Oedfa Gymundeb. Bydd ein Gweinidog, yn mynd â ni eto ar daith. Buom eisoes yn yr Unol Daleithiau a Canada. Nos Sul cawn ein tywys i damaid o dir yng nghanol anferthedd y Môr Tawel, a darganfod yno gwefr yr Atgyfodiad. Byddwn wedi dychwelyd yn ddiogel erbyn 19:00! Eto, bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Nos Fawrth (3/4; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gydag ABIGAIL (1 Samuel 25: 1-44). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.