• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

Y GROGLITH

March 30, 2018 Owain Evans

 ‘Fy enaid trist, wrth gofio'r frwydyr ...

Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth

a chladdu'r Atgyfodiad mawr ...’ (AG).

FFAIR ARFAU CAERDYDD

March 26, 2018 Owain Evans

Ffair arfau DPRTE (Defence Procurement, Research, Technology and Exportability Exhibition) ym mis Mawrth.

Beth allasai fod yn well?

Cwbl addas yw cynnal UK's Premier Defence Procurement Event ym mis Mawrth gan mae eiddo ‘Mawrth’ y mis hwn. Hen dduw rhyfel oedd Mawrth. ‘Roedd gan y Rhufeiniaid meddwl mawr o’r duw Mawrth. Adeiladent demlau heirdd iddo; offrymid y blaidd a’r fwltur - y creulonaf o’r holl anifeiliaid ac o’r adar ysglyfaethus - yn ebyrth i’r creulonaf o dduwiau.

Mawrth: duw rhyfel. Dengys y ffair arfau fod y duw Mawrth yn fyw ac yn iach. Ond, â ninnau’n tynnu tua diwedd y mis sydd eiddo i Ryfel, rhaid cofio ein bod ni yma yng Nghymru’n dechrau’r mis gan ddathlu Dygwyl ein nawddsant: Dewi. Ychydig a wyddom i sicrwydd amdano, ond gwyddom ddigon i fod yn sicr mai anogaeth i’n cyfnod oedd ei anogaeth olaf yntau: "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred."

Mae gennym neges syml bwysig i’r byd yn gyfan: mis Mawrth, mis o eiddo Rhyfel; ie; ond mae’r mis hwnnw’n dechrau gyda Dewi a llawenydd cadw’r ffydd.

Mae’r ffaith fod mis Rhyfel yn dechrau gyda dydd Gŵyl ein Nawddsant yn ddameg o’n ffydd.

Ni fwriadwyd i bobl Dduw ddal ysbryd yr oes erioed, ond i’w herio a’i gywiro.

SUL Y BLODAU

March 25, 2018 Owain Evans

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)

Taith yw’r Grawys. Y mae’n bwysig bod ystyr a phwrpas i daith ein Grawys, gan fod crwydro’n ddiamcan yn gwbl ofer, ac yn wastraff ar ein hamser ac ynni. Y mae i bob taith ei nod - ei phen draw. Anelu at gyrraedd y mae’r teithiwr - a’r pen draw sy’n rhoi ystyr a phwrpas i’r teithio. Heddiw, yr ydym yn cyrraedd diwedd y daith, daethom i Jerwsalem.

Yn ystod yr wythnos ddwys a sanctaidd hon, cawn gyfle i weld o’r newydd ryfeddod a dyfnder cariad Duw yng Nghrist.

O Fab y Dyn,

Eneiniog Duw,

Fy Mrawd

A’m Ceidwad cry’;

Ymlaen y cerddaist

dan y groes

a’r gwawd

heb neb o’th du.

Ceidwad cry’ yw ein ceidwad ni. Ymlaen y cerddaist, ymlaen i ganol berw Jerwsalem; ymlaen, ymlaen, ymlaen ac ymlaen yng ngrym ei gariad anorchfygol i gwrdd ag angau ei hun.

Beth am gynnau cannwyll gweddi heddiw, a thaenu ein gweddïau fel blodau ar y ffordd i Jerwsalem.

Hosanna!

Bendigedig

yw ein

Ceidwad cry’!

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

March 23, 2018 Owain Evans

Bore Sul Blodau (25/3; 10:30), ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Gwilym Wyn Roberts (Caerdydd). Cynhelir yr Ysgol Sul. Liw nos am 18:00 byddwn yn ymuno yng ngŵyl bregethu'r Tabernacl, yr Ais. Pregethir gan y Parchedig Eirian Wyn Lewis (Mynachlog-ddu) Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street. Boed bendith ar y Sul.

Nos Lun (26/3; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ hwn fydd y Pasg.

Nos Fercher (28/3): Cinio Pen Tymor ein Cymdeithas Ddiwylliannol yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd (gwestai gwadd: Dr Rhian Fenn)

Dydd Iau (29/3; 10:30 -13:00): Taith Gerdded ym Mhenarth a'r Bae. Manylion llawn yn nhaflen cyhoeddiadau’r Sul.

Oedfa Nos Iau Cablyd (29/3; 19:30): Awr fach dawel yn y Festri. Cyfle i ogwyddo’r meddwl tua’r Groglith a’r Pasg.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd; Dydd Gwener y Groglith (14:00; Oedfa yn Eglwys Dewi Sant dan arweiniad y Parchedig Judith Morris (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr).

YN ANAD UN (9) ATEB

March 22, 2018 Owain Evans

Job 3:5 yw’r adnod nad sydd yn perthyn gan fod hon yn sôn am düwch. Mae’r gweddill i gyd yn cyfeirio at y lliw glas.

YN ANAD UN (9)

March 22, 2018 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb am 20:30.


Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?

MINNY’D (26) SALM 117

March 21, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT

March 19, 2018 Owain Evans

MICHAL

2 Samuel 6: 16-23

‘Roedd Michal, merch ieuengaf Saul, wedi syrthio mewn cariad â’i arwr ifanc, Dafydd. Gwelodd Saul ei gyfle. Os oedd Dafydd am briodi Michal, ‘roedd angen rhodd briodas - cant o flaengrwyn! Syniad a bwriad Saul oedd peri i Dafydd farw ar faes y gad. Llwyddodd Dafydd a phriododd Michal. ‘Roedd pawb wedi dotio arno. ‘Roedd cenfigen Saul yn prysur droi’n gasineb.

Un noson danfonodd Saul filwyr i amgylchynu tŷ Dafydd a Michal. Rhybuddiodd Michal ei gŵr, a thwyllo’i thad a’i filwyr gan roi amser i Dafydd ddianc. ‘Roedd Saul byth a hefyd yn ceisio’i rwydo a’i ladd. O dipyn i beth penderfynodd Saul dorri’r briodas: "Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu’n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais" (1 Samuel 25: 44). Yn wleidyddol, ‘roedd y peth yn gwneud synnwyr. Yn gweld ei deyrnas yn gwywo, symudodd Saul fôr a mynydd i sicrhau’r orsedd i’w fab Jonathan.

Ond bu farw Saul a Jonathan ar faes y gad; hawliodd Dafydd yr orsedd wag. Erbyn hyn ‘roedd Michal yn byw yn ddiogel a dedwydd gyda Palti yn Nheyrnas y Gogledd. Yma, ’roedd Ishbosheth, mab Saul yn teyrnasu. Mynnodd Dafydd gael Michal yn ôl a’i chymryd oddi wrth Palti. "Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hol ..." (2 Samuel 3:16). Mae’r geiriau hyn yn mynegi’n gryno poen a gofid y gwahanu. Naturiol, felly, yw’r chwerwedd sydd mor amlwg yn y darlleniad uchod. Mae awdur Llyfrau Samuel, wrth ddisgrifio berw a chyffro esgyniad Dafydd i’r orsedd, yn ein hannog i gofio fod cariad a bywyd pobl fel Michal a Palti wedi syrthio i fagl gwleidyddiaeth grym y cyfnod.

Yng nghyd-destun profiad Michal a Dafydd, trafodwch arwyddocâd y ddihareb: Ni ellir hau drain a disgwyl medi grawnwin.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021