• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

March 2, 2018 Owain Evans

Daeth yr eira’n drwch i Gaerdydd a’r cyffiniau! Bu’n rhaid gohirio ein cinio Gŵyl Ddewi a ‘Cyngerdd a Chacen’ gwaetha’r modd OND mae’n fwriad gennym i gynnal ein Hoedfa Foreol am 10:30. Gweinyddir y Cymundeb; bydd natur a threfn yr Oedfa yn dibynnu i raddau helaeth ar bwy all ddod ynghyd. Felly, os mae’n ddiogel i chi fentro allan bore Sul, estynnir croeso calon i chi i ymuno â ni yn ein haddoliad. Gwneir penderfyniad parthed yr Oedfa Hwyrol bore Sul.

Nos Lun (5/3; 19:00-20:30) PIMS.

Nos Fawrth (6/3; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda HANNA (1 Samuel 2: 1-10). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd nos Iau (8/3: 19:30): Myfyrdod y Grawys 2 yng Nghanolfan y Conglfaen (Cornerstone), Heol Siarl dan arweiniad Carys Whelan. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

MINNY’D (23): MEWNFUDWR O FLODYN!

February 28, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

PYTHEFNOS MASNACH DEG (Chwefror 26 - Mawrth 11)

February 26, 2018 Owain Evans

... yna caiff barn yn trigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a’i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel a chartrefi tawel. (Eseia 32:16-18)

Mae’r weledigaeth hon yn bell o gael ei gwireddu. Heddiw, yr un peth, yn anad dim, sy’n tarfu ar y gwaith o adeiladu gwell byd yw parodrwydd yr ychydig i ymelwa ar draul y mwyafrif. Mae ein brodyr a chwiorydd, ledled byd yn llafurio o dan amodau gwaith echrydus, a’m dâl cwbl annigonol i sicrhau’r mesur lleiaf o’r diogelwch a moethusrwydd y cymerwn ni yn ganiataol. Mae Duw yn disgwyl i ni godi llais yn erbyn pob anghyfiawnder. Mae Duw yn galw arnom i ddefnyddio’r golud a rhoddwyd i ni i sicrhau gwell byd i bawb.

Gwna cynnyrch Masnach Deg hi’n hawdd i ni newid y byd. Wrth yfed te a choffi Masnach Deg, gallwn newid y byd, fesul paned. Wedi dewis siocled Masnach Deg, gallwn newid y byd trwy fwyta siocled! Mae sgidiau Masnach Deg ar gael. Gallwn newid y byd wrth gerdded; mae pêl-droed Masnach Deg i gael - beth am newid y byd fesul gôl?

Nid chwarae bach yw Masnach Deg. Model economaidd amgen yw Masnach Deg yn seiliedig ar yr argyhoeddiad fod masnach a thegwch yn medru cyd-gerdded a chyd-weithio.

AIL SUL Y GRAWYS

February 25, 2018 Owain Evans

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)

Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi - dros dir diffaith, caled, cras.

Pererin wyf mewn anial dir,

yn crwydro yma a thraw ...

Tyrd, Ysbryd sanctaidd, ledia’r ffordd ...

Diolch i Williams Pantycelyn am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd.

Beth sydd mewn anialwch? Dim. Dim ond llwch a llonyddwch llethol. Dim. Neb.

Beth sydd mewn anialwch? Cyfle. Cyfle yng nghanol drysni’r diffeithwch i ganfod Duw. Yng nghanol profiadau chwerw'r anialwch mae Duw gyda ni. Dyma neges y Beibl drwyddo draw.

A wyddoch tybed, am yr anialwch, a’i effaith ar berson?

A wyddoch efallai, am rywun sydd yn heddiw’n cerdded mewn anial dir?

Os felly, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 23, 2018 Owain Evans

Dros y Sul, un adnod, dwy bregeth: Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i (Mathew 16:24). Yn yr Oedfa Foreol (10:30; cynhelir Ysgol Sul), bydd Owain yn bwrw golwg lled gyffredinol dros neges yr adnod gan ymdrin â 'Dewis', 'Disgyblaeth' a 'Dalifyndrwydd' (gellid darllen Mathew 16:13-28 a Luc 14:25-33 rhag blaen). Liw nos (18:00), ceisiwn fynd i’r afael ag arwyddocâd codi croes - ein croes. Boed bendith.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (27/2; 19:30 yn y Festri): "Yr Eglwys yng Nghymru a fy ngwaith fel Archesgob" yng nghwmni Y Gwir Barchedig Ddr Barry Morgan.

Babimini bore Gwener (2/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Dydd Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd (2/3; 14:00): gwasanaeth Cylch Caerdydd, a baratowyd eleni gan Chwiorydd Cristnogol Swrinam ar y thema "Mae cread Duw yn dda iawn i gyd!", yn Eglwys y Crwys.

'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT

February 19, 2018 Owain Evans

RUTH

Ruth 1: 16-18 a 2: 10-13; Eseia 25:4 a Salm 90: 17

Mae Ruth yn un o gymeriadau mwyaf prydferth y Beibl. Ystyr enw Ruth yw ffrind, cyfaill. ’Roedd dyfnder rhyfeddol i’w cyfeillgarwch ac ymgysegriad - ’roedd yn well ganddi fentro i wlad ddieithr, i ganol pobl newydd, derbyn ac addoli Duw gwahanol, wynebu’r tlodi a chaledi anorfod, yn hytrach na mynd yn ôl i’w chynefin at ei theulu, ei phobl a’i ffrindiau. ’Roedd yn well ganddi fod yng nghwmni Naomi doed a ddelo, na byw hebddi. Dim ond y cariad a fu rhwng Dafydd a Jonathan sydd i’w gymharu â’r cariad sydd yn cydio’r ddwy hon wrth ei gilydd.

Yn ôl pob tebyg, cafodd Llyfr Ruth ei ysgrifennu yn yr un cyfnod â Llyfr Jona. Credir hefyd mai’r un pwrpas a diben oedd i’r ddau; pwysleisio y dylai crefydd fod yn ddigon mawr ac yn ddigon cryf i groesawu pobl o genhedloedd eraill. Yn lle bod crefydd yn crebachu meddwl pobl, dylai ledu eu gorwelion. A dyna rôl Boas yn y stori. Y bonheddwr a ofalodd fod Naomi a Ruth yn cael lloffa yn amser y cynhaeaf. O dipyn i beth fe enillodd Ruth galon Boas. Ganwyd iddynt fab, Obed. Trwyddo bendithiwyd y genedl, oherwydd ef oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.

Mewn ystyr real iawn mae Ruth yn llawn cymaint o arloeswr crefyddol ag yr oedd Abraham. Trodd hwnnw ei gefn ar hen fyd a ffordd o fyw i ddarganfod ffydd newydd. Gadawodd hon ei chynefin, teulu a chydnabod a dewis dod, a bod, yn rhan o deulu Abraham. Mae awdur Llyfr Ruth yn mynegi hynny’n ddistaw bach! Cymharwch alwad Abraham: "Dywedodd yr Arglwydd wrth Abram, "Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti"" (Genesis 12: 1) gyda geiriau Boas wrth Ruth "... fel y gadewaist dy dad a’th fam a’th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o’r blaen" (Ruth 2:12). Mae stori Ruth y Foabes yn rhan annatod o hanes holl ddisgynyddion Abraham.

 

SUL CYNTAF Y GRAWYS

February 18, 2018 Owain Evans

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)

Taith yw’r Grawys. Y mae’n bwysig bod ystyr a phwrpas i daith ein Grawys, gan fod crwydro’n ddiamcan yn gwbl ofer, ac yn wastraff ar ein hamser ac ynni. Y mae i bob taith ei nod - ei phen draw. Anelu at gyrraedd y mae’r teithiwr - a’r pen draw sy’n rhoi ystyr a phwrpas i’r teithio. Heddiw, Sul cyntaf y Grawys, ‘rydym megis ar ddechrau’r daith, ac mae Jerwsalem ym mhell, ond fe ddaw yn nes bob wythnos nawr.

Beth am gynnau cannwyll i nodi’r Sul hwn? Neu, efallai bod rhywun ar eich meddwl heddiw. Gellid cynnau cannwyll felly fel arwydd o’ch gofal drostynt; eich balchder ohonynt neu o’ch hiraeth amdanynt.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 16, 2018 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Guto Llywelyn (Rhydaman). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.

Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Nos Fawrth (20/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda RUTH (Ruth 1:16-18 a 2:10-13; Eseia 25:4 a Salm 90:17). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Taith Gerdded bore Mercher (21/2; 10:30-13:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd nos Iau (22/2: 19:30): Myfyrdod y Grawys 1. Yn Festri Minny Street gyda’r Parchedig Aled Huw Thomas yn arwain. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021