Salm 58:4
Adar sydd yn yr adnodau eraill
Your Custom Text Here
Salm 58:4
Adar sydd yn yr adnodau eraill
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
SIFFRA a PUA
Exodus 1: 15-20
Wrth droi ychydig dudalennau cyntaf Llyfr Exodus, anodd yw peidio sylwi mor bwysig yw rôl nythaid o wragedd yn nechreuadau’r hanes. Dim ond dwy ohonynt sydd yn cael eu henwi: Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid. Y ddwy, gyda dewrder anhygoel, yn gwrthod cydymffurfio â deddf newydd Pharo. ’Roedd pob bachgen newydd-anedig o blith yr Hebreaid i’w ladd. Cyn hir sylweddola Pharo, er gwaetha’r ddeddf newydd, fod yr Hebreaid yn dal i gynyddu!
Mae’r ddwy fydwraig yn cael eu galw i bresenoldeb y Pharo. "Eglurwch i mi," meddai, "pam ydych chi’n gadael i fechgyn newydd-anedig yr Hebreaid i fyw?" Mae bywyd y ddwy yn y fantol ac mae Pharo yn amau eu twyll yn fawr. Gyda dyfeisgarwch a menter ryfeddol, dywedasant wrtho, "O Pharo, choeliwch chi ddim, ond mae gwragedd yr Hebreaid yn wahanol iawn i ni! Mae gwragedd yr Eifftiaid yn esgor am oriau, ond mae’r Hebreaid yn fywiog tu hwnt, heb boen geni o gwbl, yn esgor cyn i ni gyrraedd!" Mae’r eglurhad yn dibynnu ar y gobaith y bydd rhagfarn Pharo, a’i ofn o’r Hebreaid, yn drech na’i reswm. Felly y bu. Fe gredodd Pharo.
Oherwydd eu dewrder rhyfeddol mae’r ddwy yn haeddu cael eu henwau wedi eu nodi a’u cofio. Doed a ddelo, maent yn gwrthod baeddu eu dwylo â gwaed y diniwed. Trwy fod yn eofn ac wynebgaled maent yn rhoi cyfle i fywyd ddianc o grafangau marwolaeth!
Wrth ystyried hanes Siffra a Pua, trafodwch eiriau J. Cynddylan Jones a Pennar Davies:
Boed bendith y flwyddyn newydd hon, Dechrau’r flwyddyn newydd gyda Duw, gyda’n gilydd fydd echel yr Oedfa Deulu bore Sul (10:30). Wrth y Bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan (14:00). Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo ac i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da fydd gweld eto’r eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri. Bydd cinio yn Yr Hen Dŷ Post, Sain Ffagan cyn y Blygain (rhaid bod wedi archebu ymlaen llaw). Boed bendith a mwynhad.
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog yn ymdrin ag adnod o Lyfr Datguddiad (21:5): Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd. Mae’r adnod yn awgrymu pedwar peth am y greadigaeth newydd. Y mae ei FFYNHONNELL yn Nuw: Wele, yr wyf FI yn gwneud ... Y mae hi’n FFAITH yn y byd sydd ohoni nawr - Wele, YR WYF yn gwneud ... Y FFACTORAU sy’n arwain ati yw adnewyddiad, adfer ac aduno. Y FFYDD sy’n deillio o hyn i gyd yw bod Duw, na fynnodd gefnu ar ei fyd, yn gyson adfer ac adnewyddu’r byd: Wele, yr wyf yn gwneud POB PETH yn NEWYDD.
Nos Lun (8/1; 19:00-20:30) - PIMS
Nos Fawrth (9/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda SIFFRA a PUA (Exodus 1:15-20). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Dr Hefin Jones. Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregeth fuddiol a gwerthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfa. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Ni fydd Oedfa Hwyrol yn Minny Street.
Pedwar o aelodau eglwys Minny Street - Owain, Shani, Connor a’r Parchedig Dyrinos Thomas fu’n gyfrifol am lunio a chyflwyno Oedfa Radio Cymru (5:30 a 11:30; 31/12) go gyfer Sul olaf y flwyddyn. Mawr ein diolch am y cyfle i’w pharatoi. Hyderwn bydd y cyfan yn fendith ac yn gysur.
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu bwyd addas i fabanod neu blantos bach?
Canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
(2 Corinthiaid 9:7b)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o ffrwythau mewn tun?
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta.
(Marc 6:37)