Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o ffrwythau’r olewydd?
Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
(Salm 9:9)
Your Custom Text Here
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o ffrwythau’r olewydd?
Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
(Salm 9:9)
Dydd Sadwrn (23/12), priodas Geraint a Steph. ... ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. (Tudor Davies; CFf:635).
Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol. Testun ein sylw fydd yr ychydig adnodau cyfarwydd mawreddog hynny ar ddechrau Efengyl Ioan: Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. (Ioan 1:1-14) Awgryma Owain fod deulais mewn cynghanedd yn yr adnodau cyfarwydd hyn. Mae’r llais cyntaf yn canu emyn o fawl mewn llais hyfryd, dwfn a swynol. Mynnu torri ar draws y canu swynol hwn mae’r ail lais. Llais yn deisyf arnom i ganolbwyntio ydyw, a hynny er mwyn gweld yn glir a deall yn iawn pwy yw’r goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch!
Ni fydd Oedfa am 6pm ond dewch i'r Gwasanaeth Noswyl Nadolig yn y Festri am 23:30: ‘OMB!’ fydd thema’r Oedfa arbennig hon. Cawn gyfle i gwrdd â’r ferch ifanc isod.
Oedfa'r Nadolig (25/12; 10:00) yng Nghapel Minny Street dan lywyddiaeth y Gweinidog; cawn gwmni cyfeillion Eglwys y Crwys a phregethir gan y Parchedig Aled Huw Thomas (Gweinidog Eglwys y Crwys).
Taith Gerdded y Nadolig (28/12; 10:30 -13:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.
Ateb: Micha 5:2
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am ychydig o gawl?
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.
(Diarhebion 19:17)
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30.
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o laeth UHT?
Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
(Mathew 5:7)
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am ychydig o goffi?
Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
(Mathew 7:12)