Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu pwdin Nadolig?
Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, na chaleda dy galon ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd.
(Deuternomium 15:7)
Your Custom Text Here
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu pwdin Nadolig?
Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, na chaleda dy galon ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd.
(Deuternomium 15:7)
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o sudd ffrwythau?
Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.
(Diarhebion 14:31)
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu cracyrs?
Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi.
(Mathew 25:35)
Yr Adfent hwn, gwahoddwyd ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Bydd pob cartref yn wahanol. Tŷ gwahanol iawn sydd gan Ioan, (Oedfa Foreol, 10:30). Gwydr yw’r cyfan bron, ac mae’r cartref hwn o olau olau; wedi ei ddodrefnu’n ddethol a bwriadol i ledu ac amlygu’r golau. Beth yw man cychwyn Efengyl Cariad Duw yng Nghrist? Y mae’r Efengylydd cyntaf, Marc, yn dechrau gyda gweinidogaeth Ioan y Cennad. Â Mathew a Luc â ni ymhellach yn ôl at Abraham, a Mair. Y mae Ioan yn olrhain yr hanes yn ôl i ddechreuad pob peth. Pan grëwyd nefoedd a daear ‘roedd y Gair eisoes mewn bod. Y mae’n gydoesol â Duw, yn un o ran natur â Duw. Fel Duw ei hun, y mae’r Gair yntau yn ffynhonnell bywyd a goleuni.
Ni fydd Ysgol Sul. Bydd y casgliad rhydd yn yr oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi gwaith Cyngor yr Ysgolion Sul.
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Am 17:00 (sylwch ar y newid amser os gwelwch yn dda) cynhelir ein Dathliad Nadolig: Nadolig ad hoc. Gwahoddir chi i ddod, o’r ieuangaf i’r hynaf, wedi gwisgo fel un o gymeriadau Hanes Geni Iesu Grist. Bydd hyblygrwydd y sgript yn sicrhau fod modd cynnwys pawb a phopeth! Yn dilyn yn syth ymlaen o’r Dathliad hwn bydd Parti Nadolig yr Ysgol Sul a PIMS yn gweini wrth y byrddau.
Nos Lun (18/12; 19:00-20:30) Parti Nadolig PIMS
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (19/12; 19:30 yn y Festri): "Dolig unwaith eto" yng nghwmni Hannah Roberts.
Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd yr olaf nos Fawrth, (21/12; 7:30): Ein Hymateb i’r Ymgnawdoliad (O deued pob Cristion, Jane Ellis, 1779-1841) yn y Festri.
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu rhywbeth sydd yn addas i’r rheini sydd yn dioddef o ryw alergedd bwyd arbennig?
Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch.
(Hebreaid 13:16a)
Ateb: Jona
Jona 1:12
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu tun o bysgod neu gig?
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn brin ohonynt.
Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.
(Galatiaid 2:10)
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30