Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o grefi?
Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd.
(Salm 41:1a)
Your Custom Text Here
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o grefi?
Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd.
(Salm 41:1a)
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o stwffin?
A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o’i law; cynorthwya ef.
(Lefiticus 25:35a)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o reis?
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
(Galatiaid 6:2)
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu bisgedi?
Y neb sydd ganddo ddau grys, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.
(Luc 3:11)
Cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu grawnfwyd?
Bendithir y dyn hael am ei fod yn rhannu ei fara i’r tlawd.
(Diarhebion 22:9)
Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/9 am 9:30 yn y Festri): clychau, ac unawd biano gan ein Gweinidog! Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yr Adfent hwn, gwahoddwyd ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Bydd pob cartref yn wahanol. Tŷ mawr sydd gan Mathew, (Oedfa Foreol, 10:30). Bu’r tŷ yn gartref i’r teulu ers cenedlaethau, ac mae pob cenhedlaeth wedi ychwanegu ychydig ato. Mae lluniau’r teulu ym mhob cwr a chornel o’r tŷ. Mae’r tŷ heddiw, fel pob amser yn llawn pobl, llawn croeso.
Liw nos (18:00) byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda Luc. Yr adeg yma yn y flwyddyn mae Luc wrth ei ffodd. Mae’r ardd a thu faes y tŷ yn drwm o olau, pob lliw a llun o lewyrch ac addurn. Wedi croesi rhiniog y drws, nid oes y fath bwysau o olau a disgleirdeb. Ychydig iawn o addurniadau sydd oddi mewn i’r tŷ. Cartref syml, twt a glân ydyw. Yng nghrog uwchben y lle tân mae portread, olew ar gynfas, o wyneb benywaidd hardd: Mair. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng tu faes a thu mewn yn drawiadol, ac yn peri ychydig o anesmwythyd. Efengyl felly yw Efengyl Luc: mae iddi brydferthwch arwynebol, amlwg, ac mae iddi brydferth sydd ynghudd o dan y wyneb.
Bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Cymdeithas y Beibl.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt fwrw golwg dros y flwyddyn galendr hon, ac edrych a threfnu i’r dyfodol.
Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd yr ail nos Fawrth, (12/12; 7:30 yn y festri): Rhyfeddod yr Ymgnawdoliad (Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, Ann Griffiths, 1776-1805) yn y Festri
Dathliad Nadolig Babimini bore Gwener (15/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin a... Siôn Corn! Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o ffa, ffacbys neu corbys?
A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r ARGLWYDD.
(1 Cronicl 29:9)