• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

December 1, 2017 Owain Evans

Echel ein hoedfa i’r teulu fydd yr Adfent (10:30) Bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Wedi'r oedfa, bydd paned, nwyddau Masnach Deg ynghyd ȃ "Dewch a Phrynwch" (Cynnyrch Cartref) er budd ein helusen, BanglaCymru.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd y Gweinidog yn dechrau ar gyfres o bedair pregeth i’n harwain trwy’r Adfent i’r Nadolig. Gwahoddir ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Fel arfer, nhw sydd yn dod i tŷ ni fel petai, ond eleni, nyni fydd yn galw heibio gyda nhw. Bydd pob cartref yn wahanol wrth gwrs; mae natur a naws bob aelwyd yn wahanol. O bosib, byddwn yn fwy cysurus ar ambell aelwyd na’i gilydd, ond bydd bob un yn cynnig neges werthfawr am ystyr y Nadolig. Boed bendith. Eto, bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Wedi'r oedfa, bydd paned a nwyddau Masnach Deg .

Nos Lun (4/12; 19:00-20:30) PIMS

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (5/12; 19:30 yn y Festri): "Patagonia" yng nghwmni Lleucu Parri.

Koinônia amser cinio dydd Mercher (6/12): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd y cyntaf nos Iau, (7/12; 7:30 yn y festri): Am Bwy ‘Rydym yn Aros? (Ar gyfer heddiw’r bore, Eos Iâl (Dafydd Hughes), 1794-1862).

Bore Gwener (8/12; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Social Media (t.57-65).

Cofiwch hefyd am ein Calendr Adfent tu chwith. Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd. Ceir awgrym o beth ellid ei gyfrannu ac adnod bob dydd.

PWY DDWEDODD? (13) ATEB

November 30, 2017 Owain Evans

Ateb: Solomon

Diarhebion 3:5

PWY DDWEDODD? (13)

November 30, 2017 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb am 17:30.

MINNY’D (13) PRYNU DARN O DIR

November 29, 2017 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT

November 27, 2017 Owain Evans

‘Cyfarfyddiad Jacob a Rachel’ gan Joseph Fuhrich (1800-1876)

LEA a RACHEL

Genesis 29: 16-18

‘Roedd gan Laban ddwy ferch; Lea'r hynaf a Rachel yr ieuengaf. "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond ‘roedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth" (Genesis 29: 17) Mae storïwr Genesis yn feistr ar ei grefft! Ychydig eiriau cynnil a chraff yn dweud cyfrolau. Meddyliwch am y gair bach ‘pŵl’, "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl". Llygaid heb loywder; digon plaen oedd Lea. Ond arhoswch am eiliad, diddorol a blasus weithiau yw cymharu cyfieithiadau gwahanol o ambell adnod neu air. Meddyliwch am ddau gyfieithiad Saesneg, "Leah had delicate eyes" a "Leah was tender-eyed". Ddim mor blaen felly! Ond, druan, ‘roedd hi’n blaen o’i chymharu â Rachel a oedd "yn osgeiddig a phrydferth".

Genesis 49: 29-33

Cafodd y twyllwr ei dwyllo! Oherwydd cyfrwystra Laban, bu raid i Jacob briodi Lea a Rachel. Mae’r storïwr yn awgrymu fod Lea dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Jacob, ond hoffodd Jacob Rachel yn fwy na Lea. Anodd deall beth welodd yr un o’r ddwy yn Jacob! Rhaid bod llond trol o ‘charm’ gan yr hen sgamiwr! Bu Lea’n wraig ffyddlon a ffrwythlon i Jacob, ganwyd iddi chwe mab a merch; nid digon hynny i ennill calon Jacob! Rachel oedd y ffefryn. Wedi hir aros ganed mab i Rachel, Joseff. Wrth iddi esgor ar ei hail fab, Benjamin, bu farw Rachel. Claddwyd hi ym Methlehem. Mae tro rhyfedd ac annisgwyl yng nghynffon y stori. Blynyddoedd wedyn, a Jacob yn alltud yn yr Aifft, a’i fywyd yn dirwyn i ben, rhoes orchymyn i’w feibion i’w gladdu, nid wrth ochr Rachel ym Methlehem, ond yn ogof Machpela, lle claddwyd Abraham a Sara, Isaac a Rebeca ... a Lea. Yn y diwedd, gorwedd wrth ochr y ferch â’r llygaid pŵl oedd dewis Jacob.

  • Y dyn y cefais i fwyaf o drafferth gydag ef, meddai Dwight L. Moody, oedd Dwight L. Moody. (Cenhadwr a phregethwr Americanaidd oedd Dwight L. Moody; 1837-1899). A’i dyna’r gwir am bob un ohonom?
  • Yng nghyd-destun profiad Lea, Rachel a Jacob trafodwch eiriau Thomas Philips (1806-1870): Dau beth sy'n syndod i mi. Ymddiriedaeth Duw mewn pobl ac amynedd Duw gyda phobl.
  • Beth yw maddeuant?

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

November 24, 2017 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Ddr Noel Davies (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Testun sylw’r Ysgol Sul fydd Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32). Lle fydd Iesu’n cuddio tybed? Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.

Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.

Nos Lun (27/11; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ hwn fydd yr Adfent.

Taith Gerdded Rhiwbeina bore Mawrth (28/11; 10:30-12:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.

Nos Fawrth (28/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda Lea a Rachel. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

Babimini bore Gwener (1/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

PWY DDWEDODD? (12) ATEB

November 23, 2017 Owain Evans

Ateb: Iesu yn y Bregeth ar y Mynydd

Mathew 6:1

PWY DDWEDODD? (12)

November 23, 2017 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb am 17:30.

← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021